‘Nosweithiau Sblash’
Nid oes raid i nos Wener fod yn ddiflas i blant a phobl ifanc 8 – 14 oed. Pam na ddewch i ymweld â Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr? Mae cerddoriaeth yn creu’r naws, mae teganau gwynt yn y pwll yn creu’r cyffro a chi sy’n darparu’r awyrgylch! Dewch i roi cynnig arni! Pris £2.60, neu £2.30 (Pris am Pur). Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, felly’r cyntaf i’r felin.
Cynhelir Nosweithiau Sblash ar nos Wener. Mae’r drysau’n agor am 8.00pm i orffen erbyn 9.30pm.
Dyddiadau Nosweithiau Sblash ar gyfer 2008
- Medi 5ed
- Medi 19eg
- Hydref 3ydd
- Hydref 17eg
- Tachwedd 7fed
- Tachwedd 21ain
- Rhagfyr 5ed
Cadwch lygad ar agor am fwy o ddyddiadau!
yn ôl i'r brig
Sesiynau Hwyl
Dydd Iau yn ystod gwyliau'r ysgol 2.00pm-3.00pm Sesiwn Hwyliog gyda Theganau Gwynt. Darperir teganau gwynt bach a siapau hwyliog eraill am ddim i blant dan 16 oed.
Polo Dwr dydd Gwener 2.00pm-3.00pm yn ystod gwyliau'r ysgol.
Nofio mewn Lonydd
Fel arfer, bydd sesiynau nofio mewn lonydd ar gael yng nghanol yr wythnos yn ystod y gwyliau rhwng 7.00am a 10.00am a 12 canol dydd a 2.00pm.
yn ôl i'r brig
Sesiynau 50+
Mae'r prif bwll ar gael bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9.00am a 10.30am drwy gydol y flwyddyn. Y pris yw £2.45 neu £2.10 gyda Pur ar gyfer pobl 50 oed neu'n hyn, ac mae'n rhad ac am ddim i bobl 60 oed neu'n hyn.
yn ôl i'r brig
Ymunwch â Champfa’r Byd Dwr ac arbedwch arian!
Gall cwsmeriaid sy’n mwynhau defnyddio campfeydd a nofio’n rheolaidd wneud arbedion mawr drwy ymaelodi â’r gampfa am 1, 3 neu 12 mis. Pan ymunwch ag un o gampfeydd y Cyngor, nid oes tâl ymaelodi, sy’n gallu bod yn ddrud wrth ymuno â champfa breifat. Nid ydych ychwaith yn gaeth i gontract, a gellwch dalu wrth ddefnyddio’r gampfa am bris rhesymol iawn.
yn ôl i'r brig
Galâu Nofio
Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr yn bwll nofio rhanbarthol sydd â chyfleusterau ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys 300 o seddi rhenciog ar gyfer gwylwyr, amseru electronig, rhaffau gwrthdon ar y lonydd, gwasanaethau arlwyo rhagorol a phartneriaeth effeithlon rhwng Clwb Nofio Wrecsam a staff y pwll. Mae hyn i gyd, a llawer mwy, yn cyfuno i ddarparu cystadlaethau rhagorol sy’n helpu i hybu proffil tref Wrecsam a dod â chwsmeriaid i’r ardal.
Galâu Nofio
yn ôl i'r brig
Dawnsio'r Stryd
Dydd Sadwrn 11.00am - 12.00pm. 11 - 16 oed.
Ffurf artistig, gymnastig, unigol a medrus o ddawns. £1.60 y sesiwn.
yn ôl i'r brig
Hyfforddiant Cylchol
Dydd Mawrth 4.15pm - 5.15pm. 11 - 16 oed.
Mae hwn yn sesiwn ymarfer ar gyfer pob maint a siap i adeiladu cryfder a dygnwch fel rhan o ymarfer corff iach rheolaidd. £1.75 y sesiwn.
yn ôl i'r brig
Sesiynau Nofio i Famau a Babanod
I blant sy’n 3 mis neu hŷn
Cyflwyniad hwyliog i nofio ar gyfer mamau a babanod, gan adeiladu hyder drwy chwarae.
Rhaid neilltuo lle – lleoedd cyfyngedig
Am ddim
yn ôl i'r brig
Newyddion
Cynllun Swimfit yr ASA/Kelloggs
Lansiwyd Cynllun Swimfit yr ASA gan CP Wrecsam eleni ac fe'i noddir gan Kelloggs. Mae'r cynllun yn ffordd wych o wella eich ffitrwydd wrth i chi weithio ar eich cyflymder eich hun.
Cofrestrwch ar-lein ar www.swimfit.com (cyswllt allanol) a chymerwch ran yn y cynllun hyfforddi hwn.
Mae cardiau rhaglenni ac offer ar gael yn y Byd Dwr:
- Amser cinio dydd Llun - dydd Gwener
- Sesiwn merched yn unig nos Lun 8.00pm-9.30pm
- Nos Fercher 8.00pm-9.30pm
Mae sesiwn Swimfit arbennig sy'n cynnwys defnydd arbennig o'r pwll ar gael nos Wener 7.30pm-9.30pm (ac eithrio ar nos Wener pan gynhelir sesiynau Noson Sblash).
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys cymorth wrth ymyl y pwll a chyngor am wella arddulliau nofio gan staff hyfforddedig.
Hyn oll am y pris mynediad arferol.
|