Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr

Croeso i dudalennau Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr.

Hwyl a ffitrwydd mewn lleoliad cyfleus yng nghanol tref Wrecsam i’r teulu cyfan.

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr yw’r Ganolfan Ddwr a Gweithgareddau mwyaf blaenllaw yn y dref sydd wedi’i lleoli y drws nesaf i’r Llys Ynadon gyda maes parcio talu ac arddangos mawr ger Stryt Caer. Os byddwch yn cael trafferth wrth geisio dod o hyd i ni a’ch bod yn dod â phlant gyda chi, gofynnwch iddynt edrych am yr Aliwns sy’n codi llaw o’r ffenestr fawr y tu cefn i’r adeilad. Mae’n bosibl eu gweld wrth i chi ddod yn nes at Tesco. Gyrrwch o amgylch yr ynys ar gyffordd Bodhyfryd â Ffordd Holt.

Am y Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr

Cyfleusterau Dwr

Mae cynllun trawiadol y cyfleusterau dŵr yn cynnwys pwll cystadlu 25 metr â 6 o lonydd a chadeiriau ar gyfer 300 o wylwyr. Yn ogystal â hyn, mae cyfleusterau’n cynnwys pyllau i ddysgwyr a derbyniadau, llithren 65 metr sy’n wych i deuluoedd, yn ogystal â phwll bybylu hamddenol a reid dyfroedd gwylltion i’r rhai sy’n hoff o antur.

Hoffem feddwl fod ein rhaglen weithgareddau yr un mor drawiadol â’n cyfleusterau. Rydym yn cynnig ystod o wersi nofio i fabanod hyd at oedolion nad ydynt yn nofio, â safonau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff yn y dŵr i gerddoriaeth, sesiynau 50+, sesiynau i deuluoedd a Nosweithiau Sblash, ac mae cyfleusterau ar gael ar gyfer pobl ag anableddau.

Gyda’r rhain i gyd ynghyd â chlwb nofio llwyddiannus yn ogystal â chlwb tanddwr a chlwb achub bywydau, dylai fod gan raglen y pwll rywbeth at ddant pawb, ond os na, rhowch wybod i ni.

Amserlen ddiweddaraf y pwll

yn ôl i'r brig

Ystafell Ffitrwydd Pur

Mae'r ystafell ffitrwydd hon sydd â mwy na 40 o ddarnau o offer cardiofasgwlaidd a gwrthiannol o’r ansawdd orau wedi’i chefnogi gan staff cynorthwyol sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Mae’r cyfleuster sydd wedi’i aerdymheru yn croesawu pawb, p’un ai ydynt yn ceisio colli pwysau, ystwytho’r corff neu’n gwella o rywbeth mwy difrifol.

Amseroedd agor y Stiwdio Ffitrwydd

Amserlen y dosbarthiadau ffitrwydd

yn ôl i'r brig

Ystafell Iechyd

Ffordd ardderchog o ymlacio cyhyrau poenus ac adfywio’r enaid, yn enwedig ar ôl bod yn y gampfa neu mewn dosbarth ymarfer corff. Dewch â ffrind neu dewch i ddianc rhag eich pryderon mewn amgylchedd hyfryd sy’n cynnwys jacwsi, sawna ac ystafell stêm.

Amseroedd agor yr Ystafell Iechyd

Caffi Pur

Mae gwasanaeth ein tîm arlwyo yn werth ardderchog am yr arian, a gellwch fod yn siŵr o’i safon gan ei fod wedi ennill safon ragorol o ran Hylendid Bwyd yn ôl asesiad Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. P’un ai ydych am gael byrbryd syml yn dilyn sesiwn nofio, dosbarth ymarfer corff neu sesiwn yn y gampfa, neu rywbeth arbennig, megis parti pen-blwydd neu bwffe. Mae gennym ystod o fwydydd fydd at ddant y rhan fwyaf o gwsmeriaid. Mae ein staff bob amser yn barod, ac mae’r profiad ganddynt i gwrdd â’ch anghenion.

Amseroedd Agor

Dydd Llun 10.00am - 6.00pm
Dydd Mawrth 10.00am - 6.00pm
Dydd Mercher 10.00am - 6.00pm
Dydd Iau 10.00am - 6.00pm
Dydd Gwener 10.00am - 6.00pm
Dydd Sadwrn 10.30am - 4.00pm
Dydd Sul 10.30am - 4.00pm

Pecyn Parti Penblwydd

Archebiadau ar gyfer Cyfarfodydd Busnes

Bwydlenni

  • Brechdanau o £3.20
  • Bagéts o £3.00
  • Tortillas wedi’u llenwi o £2.90
  • Teisennau o £1.10
  • Taten trwy’i o £3.50
  • Cawl y dydd o £2.80

Diodydd

  • Te o £1.20
  • Coffi o £1.80
  • Dwr o £0.60
  • Diodydd ysgafn o £1.00

Bwydlenni Bwffe - fformat PDF 56Kb

yn ôl i'r brig

Siop Farbwr Cutting Edge

Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Oriau Agor

Dydd Llun Closed
Dydd Mawrth Closed
Dydd Mercher Closed
Dydd Iau 11.00am - 6.00pm
Dydd Gwener 10.00am - 6.00pm
Dydd Sadwrn 10.00am - 4.00pm
Dydd Sul 10.00am - 1.00pm

Rhestr Brisiau

Dynion £6.00
Bechgyn £5.00
Myfyrwyr o £5.50
Myfyrwyr hÿn o £5.50
Mwstas/barf o £2.50
Gradd dros y pen i gyd £5.00

Cysylltwch â ni...

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr
Bodhyfryd
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn 01978 297300
Ebost: waterworld@wrexham.gov.uk

Gweler Map Lleoliad

yn ôl i'r brig