Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Teithiau Cerdded Owrtyn

 
Cydnabyddiaeth: Ken Farrell

Teithiau Cerdded Owrtyn

Tair taith gerdded yn dechrau o bentref prydferth Owrtyn.  Mae pob un yn 5 milltir o hyd ac yn rhoi golygfa wahanol i’r cefn gwlad o gwmpas y pentref.

Anfon lluniau o'r daith gerdded hon atom | Anfon e-bost atom am y daith gerdded hon

Cyn cychwyn ar eich taith gerdded, beth am edrych ar y canlynol: Gwefan Owrtyn (cyswllt i wefan allanol).

Teithiau Cerdded Owrtyn

Rhai blynyddoedd yn ôl, cynhyrchodd yr awdur lleol Raymond Roberts lyfryn o’r enw "The Overton Six" fel rhan o'i gyfres Clwydian Walks.  Yna, cynhyrchodd yr awdur lleol Gordon Emery daith o Owrtyn yn ei lyfr "Family Walks in the North Wales Borderlands".  Ym marn pobl Owrtyn, dyma oedd "Taith Gerdded 7".  

Pan gafodd Ken Farrell trigolyn o Owrtyn gyfle i weithio gyda Groundwork Wrecsam a chynhyrchu tri chanllaw arall, roedd yn gwneud synnwyr iddynt alw’r rhain yn Deithiau 8, 9 a 10. Cyhoeddwyd y rhain rai blynyddoedd yn ôl fel taflenni A4 wedi eu plygu. 

 chymorth pellach gan Ken, mae Tîm Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam, wedi eu diweddaru ar gyfer y wefan.  Er bod y teithiau cerdded yr un fath, paratowyd mapiau lliw newydd a rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd gyflwyno lluniau digidol a dynnwyd ar y teithiau cerdded.  Mae rhai lluniau yn yr oriel eisoes, y rhan fwyaf a dynnwyd gan Ken.

Mae’r llyfryn Clwydian Walks ar gael gan y Canolfan Croeso.

Nid yw’r llyfr "Family Walks" yn cael ei argraffu bellach ond mae’r awdur wedi rhoi caniatâd i ni ailgyhoeddi’r teithiau cerdded.  Felly os bydd rhywun am ystyried taith 7, gallwn anfon llungopi atoch!  Anfonwch eich cyfeiriad post at rightsofway@wrexham.gov.uk

Mae’r llyfryn Clwydian Walks ar gael gan y www.overton-on-dee.co.uk (cyswllt i wefan allanol).

Gwybodaeth Bellach

Mae gwasanaeth bws bob awr i Owrtyn o Wrecsam a’r Eglwys Wen a phedwar bws ar ddydd Sul.  Ymholiadau Teithiau: 01978 266166.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Gweler yr ymwadiad.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

 
English
 

Cyswllt i

Cerdded
Teithiau Cerdded Hunan-Dywysedig
Teithiau Cerdded Tywysedig
Teithiau Tywysedig
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Côd Cefn Gwlad
Rheolau Crwydro
Cyswllt
Cysylltiadau Defnyddiol
Fforwm Mynediad Lleol
Gwasanaethau Cefn Gwlad
Mynediad Cerdded
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint