Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Mwyngloddiau, Gweundir a Mynydd - crwydr anodd dros y rhosydd i World's End, ynghyd â dau opsiwn byrrach

 

Crwydr 15½ milltir o Goedpoeth, ar gyfer cerddwyr profiadol yn unig (mae teithiau cerdded 12½ milltir ac 8 milltir ar gael hefyd).

Mae pobl wedi bod yn gofyn i ni am daith gerdded hirach ers tro.  Dyma hi, o’r diwedd.  Ond mae hon yn hir ac yn uchel, yn dringo i 565 metr (1853 troedfedd).

Mae’r daith yn cychwyn ym Melin y Nant ac yn dringo Dyffryn Clywedog i’r rhostir grug uwchben.  Mae yna ddewis o dair taith gerdded wedyn, pob un â golygfeydd da.  Nid oes angen i chi benderfynu pa daith i’w dilyn hyd nes i chi gyrraedd y rhos, oni bai bod y tywydd ac oriau dydd yn ystyriaethau.

Mae’r daith lawn yn 15½ milltir o hyd ac yn dringo 700 metr.  Fodd bynnag, mae yna ddwy daith lai ar gael a fyddai’n lleihau’r hyd i 12½ milltir ac uchder o 400 metr neu 8 milltir a dringo 300 metr.

Mae pob taith yn mynnu ychydig o gynllunio a gofal.  Yn y gaeaf ac yn ystod tywydd drwg yn gyffredinol, mae’n hanfodol eich bod yn gwylio rhagolygon tywydd.  Byddai dechrau’r teithiau hirach yn gynnar yn hanfodol yn y gaeaf neu bydd yn dywyll erbyn i chi orffen.  Nid yw’r teithiau cerdded hyn yn briodol i blant bach.

Gall fod yn oer ac yn wlyb ar y rhos; mae bob amser yn fwdlyd.  Gwisgwch esgidiau cerdded da a chariwch ddillad glaw, tortsh, chwiban, cwmpawd a bwyd.  Ewch â byrbryd gyda chi ar gyfer y daith 8 milltir a phrd da ar gyfer y teithiau cerdded 12½ a 15½ milltir.  Mae’r daith gerdded hiraf yn dod o fewn ¾ milltir o’r Ponderosa ar ben Yr Oernant.  Mae’r pellter ychwanegol yn werth chweil am y bwyd a’r toiledau.

Ceir nodiadau am barcio, cludiant cyhoeddus a thir mynediad yn y rhagair i gyfarwyddiadau’r daith gerdded.

Gallwch lawrlwytho ac argraffu cyfarwyddiadau cryno a map graddfa 1:40,000.  I gwmpasu’r daith gyfan ar raddfa resymol, bu raid i ni rannu’r map rhwng taflenni dwyreiniol a gorllewinol.  Sicrhewch eich bod yn argraffu’r ddwy ran! Mae gorgyffwrdd mwy na digonol felly ni ddylech gael unrhyw broblemau’n cydosod un â’r llall.

Map Trosolwg

Sylwer nad yw'r map hwn yn addas i chi fynd ag ef ar y daith gyda chi er mwyn dod o hyd i'ch ffordd.


Map Trosolwg - gweler fersiwn mawr

Os cwblhewch y daith 15½ milltir, beth am gofrestru ar ein rhestr o oroeswyr a rhannu eich profiadau gydag eraill?

Cofiwch anfon eich lluniau digidol gorau atom ar gyfer ein horiel luniau!

Map a Cyfarwyddiadau

Map

Dyma'r ddau fap sydd eu hangen arnoch ar gyfer y daith gerdded:

Map Taith - Dwyrain - fformat PDF 1.3Mb

Map Taith - Gorllewin - fformat PDF 1.3Mb

Cyfarwyddiadau'r Daith

Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat Word 66Kb

Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat PDF 173Kb

Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat Testun Plaen 67Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Rhestr o Oroeswyr

Dyma'ch cyfle i ddweud wrth bawb eich bod wedi goroesi'r daith gerdded 15½ milltir ac i ychwanegu sylwadau a hanesion am eich taith.

Diogelu Data

Bydd yr holl ddata a ddarperir gennych yn cael eu storio a'u defnyddio yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd.

Mae'n bosibl y bydd eich sylwadau/hanesion yn cael eu golygu cyn eu rhoi ar y wefan. Gweld rhestr o oroeswyr.

Manylion Personol
Manylion Taith
Dyddiad y daith
Sut dywydd oedd hi?

Pwyswch y botwm CYFLWYNO isod i cofrestrwch i nodi'ch bod wedi cwblhau'r daith gerdded 15½ milltir ac anfonwch eich sylwadau a'ch hanesion. Pwyswch AILOSOD i glirio'r ffurflen a dechrau o'r newydd.

 

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost - ychwanegir detholiad o'r rhai gorau at yr oriel luniau. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Gweler yr ymwadiad.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Sir Ddinbych  Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint.  Ni fyddai wedi bod yn bosibl cwblhau'r prosiect hwn hebddynt.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Teithiau Cerdded y We
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint