Cerdded

Croeso i'r Adran Teithiau Cerdded

P'un ai a ydych yn gwneud ymarfer corff i leihau eich pwysedd gwaed neu'n cerdded i ymlacio ac anghofio straen bywyd cyfoes, bydd teithlyfr ar gael i chi. Dilynwch nhw a chewch weld tirlun coeth a threftadaeth fwyaf hudol y fwrdeistref sirol.

Mwynhewch eich taith gerdded!

Teithiau Cerdded Eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Teithiau Cerdded Iachus Yn ac O Amgylch Parciau Gwledig Wrecsam

Canllaw i Lwybr Maelor

Cysylltiadau Defnyddiol

Cymdeithas Y Cerddwyr

Yr elusen fwyaf ym Mhrydain sy'n gweithio i hyrwyddo cerdded a gwella amodau i gerddwyr â'r gwefan fwyaf cynhwysfawr ar y we o ran
gwybodaeth am gerdded ym Mhrydain.


Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ymhynghorydd statudol y Llywodraeth ar gyfer cynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau'r awyr agored yng Nghymru yn ogystal a'i glannau dyfrllyd. Yr awdurdod gwarchod bywyd gwyllt cenedlaethol.

Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad


Cymdeithas Clawdd Offa

Mudiad gwirfoddol annibynnol sy’n darparu gwybodaeth a gwasanaethau eraill i bobl sy’n mwynhau heicio a cherdded.  Mae’n ceisio hyrwyddo ac amddiffyn Clawdd Offa, sy’n 1200 mlwydd oed, a llwybr Clawdd Offa, sef llwybr cenedlaethol sy’n 177 milltir o hyd.  Mae’r gymdeithas yn rheoli Canolfan Clawdd Offa yn Knighton ac yn annog gwaith ymchwil hanesyddol ac archeolegol sy’n ymwneud â Chlawdd Offa a’r rhodfa sy’n rhedeg ar ei hyd.


Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint

Mae'r egwyddor o gynnwys a rhoi awdurdod i bobl leol a chymunedau warchod eu hamgylchedd yn ganolog i ymagwedd Groundwork.


Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig