|
Mae mynediad i gefn gwlad yn bwysig i bawb. Gall y manteision iechyd a geir o ganlyniad i ymarfer corff wedi'u cyfuno ag ymdeimlad o les oherwydd cysylltiad â natur wneud y profiad o fod yng nghefn gwlad yn un iachusol.
Yn anffodus nid yw mynediad i bawb yn bosibl bob tro. Mae llawer o'r Fwrdeistref Sirol yn fryniog iawn ac oherwydd y ffaith hon ni all unigolion llai abl ddefnyddio'r holl lwybrau posibl. Hefyd mae ffermio yn yr ucheldir yn dueddol o ganolbwyntio ar dda byw yn enwedig defaid, ac mae'r math hwn o ddefnydd tir yn gofyn am ffensys a chamfeydd cadarn. Fel arfer ni ddylid gosod adwyau a gatiau wiced, a gall gatiau mochyn fod yn broblem i'r ffermwyr ac i ddefnyddwyr llai abl.
Fodd bynnag, mewn lleoedd eraill bu'r Cyngor yn gwneud rhai llwybrau'n fwy hygyrch drwy gael gwared ar gamfeydd a gadael adwyau lle'n bosibl, neu ddisodli'r camfeydd â gatiau. Os ydych yn gwybod am lwybr lle byddai pobl leol yn elwa o newidiadau o'r fath rhowch wybod i ni.
Gyda'r elusen Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint fel partneriaid rydym wedi casglu ychydig o fanylion am wyth lleoliad cefn gwlad sy'n hygyrch ar gyfer y bobl hynny sydd ddifrifol o anabl. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn y fwrdeistref sirol ond rydym wedi cynnwys dau le poblogaidd nad ydynt yn bell o'r gororau.
I gael copi o'r llyfryn hwn, cysylltwch â'r Tîm Hawliau Tramwy a Mynediad ar 01978 292057 neu ebostiwch rightsofway@wrexham.gov.uk.
Os oes gennych hoff daith gerdded nad yw'n cael ei chynnwys yn y llyfryn uchod ac sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn neu unigolion llai abl rhowch wybod i ni a gallwn ei hychwanegu at y wefan hwn er mwyn i eraill ei mwynhau.
|