Dyma Strategaeth Barciau gyntaf Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan yr
arweiniwyd datblygiad y parciau trwy Strategaeth Adloniant yng Nghefn Gwlad
(1993) a Strategaeth Cefn Gwlad (2002) yn y gorffennol.
Diben datblygu Strategaeth Barciau yw datblygu cydweledigaeth rhwng aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y gymuned leol a defnyddwyr parciau o sut olwg ddylai fod ar ein parciau a sut fyddwn yn eu defnyddio dros y 5 mlynedd nesaf. Oherwydd eu maint, cymhlethdod a gofynion arnynt sy’n cystadlu â’i gilydd, teimlwyd fod angen Strategaeth Barciau i lywio eu datblygiad.
Mae’r Strategaeth Barciau’n ceisio diffinio gwerth ein parciau a chreu fframwaith polisi er mwyn i ni allu gwarchod a gwella’r parciau a’u gwneud yn fwy hygyrch. Bydd yn cynorthwyo sicrhau bod y parciau’n cyfoethogi ansawdd ac amrywiaeth ein bywyd gwyllt a’n tirwedd. Bydd y strategaeth yn cynorthwyo pobl i ddeall pa ran y gallant ei chwarae wrth ofalu am eu parciau.
Y Strategaeth Barciau sy’n darparu’r fframwaith a’r Cynllun Gweithredu sy’n cyflwyno sut fyddwn yn cyflawni’r gwaith. Lle caiff grantiau eu dangos fel ffynhonnell cyllid, ni chafodd grant penodol ei glustnodi i bob prosiect gan fod gwybodaeth am grantiau’n mynd ar ôl yr oes yn gyflym. Byddai unrhyw brosiect sydd angen llawer o arian yn gorfod cael ei gefnogi trwy gymhorthdal.
Nid yw’r strategaeth yn statudol, ond mae’n sefyll o fewn fframwaith strategaethau a pholisïau cenedlaethol a lleol allweddol.
Bydd y strategaeth yn cael ei rheoli a’i chyflawni drwy’r Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, mewn partneriaeth ag Adrannau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cynghorau Cymuned, Grwpiau Cyfeillion, grwpiau cymunedol a phartneriaid eraill â diddordeb.
Strategaeth Barciau Wrecsam
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Strategaeth Barciau Wrecsam - Fersiwn PDF 919Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |







