|
Mae’r Gist Gymunedol yn gynllun cymorth grant a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Lluniwyd y cynllun i annog mwy o bobl i wneud mwy o ymarfer corff yn fwy aml.
Y grant mwyaf sydd ar gael mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yw £1,000, ond os ydych yn glwb, mae gennych hawl i ddefnyddio £1,000 i ddatblygu’r clwb a gallwch wneud cais am £1,000 arall ar gyfer mentrau iechyd/ymarfer corff yn eich clwb.
Cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Annog mwy o bobl i wneud mwy o ymarfer corff yn fwy aml – 5 x 30 munud yr wythnos i oedolion a 5 x 60 munud yr wythnos i blant.
- Cyfrannu at ddatblygu Cymru i fod yn wlad iachach a mwy cynhwysol.
Pwrpas y cynllun
Prif bwrpas y cynllun yw cefnogi prosiectau da a fydd yn creu cyfleoedd chwaraeon ac ymarfer corff newydd neu well. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £1,000 a gellir ei ddefnyddio i gefnogi’r canlynol, ymysg pethau eraill:
- Prosiectau cerdded neu feicio
- Prosiectau sy’n annog gweithwyr i wneud mwy o ymarfer corff
- Prosiectau sy’n annog ymarfer corff mewn amgylcheddau naturiol
- Recriwtio a datblygu gwirfoddolwyr, arweinwyr a hyfforddwyr
- Prosiectau sy’n annog cynhwysiad chwaraeon ac ymarfer corff yn rhaglenni gwaith asiantaethau partner newydd
- Ymestyn clybiau chwaraeon i ddarparu cyfleoedd newydd i aelodau
Pwy sy’n gymwys?
Gall sefydliadau wneud cais, cyn belled â bod ganddynt gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad. Gall ysgolion cynradd gael budd o gynllun o’r enw Campau’r Ddraig os ydynt yn dymuno, felly nid ydynt yn gymwys i gael cyllid trwy’r Gist Gymunedol. Nid yw rhai ysgolion uwchradd yn gymwys i gael cyllid trwy’r Gist Gymunedol chwaith os ydynt yn ysgolion 5x60.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Ffoniwch y Tîm Datblygu Chwaraeon ar 01978 297366 am becyn cais neu gallwch lawrlwytho’r wybodaeth o’r adran lawrlwytho isod.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch wrth gwblhau’r ffurflen, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Chwaraeon a fydd yn barod i’ch helpu â’r broses. Ffoniwch 01978 297359.
ENGHREIFFTIAU O BETHAU A ALLAI GAEL CYLLID GAN GYNLLUN Y GIST GYMUNEDOL
IECHYD ENGHREIFFTIAU
- Grŵp colli pwysau Cyflwyno rhaglen o ymarfer corff ysgafn i ategu at ddiet.
- Adran Parciau Rhaglen o ddosbarthiadau erobeg, dawns a hyfforddiant cylchol awyr agored yn y parciau lleol yn ystod yr haf.
- Grŵp Iechyd Meddwl Cyflwyno pobl i gyfleoedd ymarfer corff a goresgyn y rhwystrau i gyfranogiad rheolaidd.
SECTOR GWIRFODDOL ENGHREIFFTIAU
- Clwb ieuenctid gwirfoddol Hyfforddiant arwain a threfnu heriau rhwng gwahanol glybiau.
- Sefydliad y Merched Cyflwyno ioga, dawns neu ddosbarthiadau ymarfer corff eraill.
- Grŵp gwirfoddol nad yw’n ymwneud â chwaraeon Cyflwyno rhaglen ymarfer corff ysgafn i’r aelodau.
- Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Datblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu ymarfer corff lleol gyda thrigolion.
GWEITHLEOEDD ENGHREIFFTIAU
- Cyflwyno dosbarthiadau dawns neu ymarfer corff amser cinio neu ar ôl gwaith e.e. dawnsio salsa, bolddawnsio, dawnsio llinell, erobeg camu, pilates.
- Gosod cawodydd mewn storfa segur i annog cymudo heini a gweithgareddau amser cinio.
- Profi rhaglen o ymgynghoriadau ffordd o fyw personol, gan edrych ar lefelau ymarfer corff y gweithlu, yn enwedig gweithwyr hŷn.
ADDYSG ENGHREIFFTIAU
- Ysgol uwchradd – Meithrin cysylltiadau cymunedol â chlybiau chwaraeon lleol.
- Coleg/Prifysgol – Cynhyrchu deunyddiau i gefnogi ymgyrch i annog myfyrwyr i wneud mwy o ymarfer corff.
CHWARAEON ENGHREIFFTIAU
- Rhaglen hyfforddiant i wirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddwyr.
- Rygbi ‘tag’ neu weithgareddau eraill gyda rhieni tra mae eu plant yn hyfforddi.
GWYBODAETH BWYSIG
Newidiadau i becynnau cais y Gist Gymunedol o fis Ebrill 2007 ymlaen.
Mae pecyn cais y Gist Gymunedol yn cael ei ddiweddaru a’i ailgynllunio ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, dylai’r ymgeiswyr nodi’r newidiadau a ganlyn.
- 1. Mae uchafswm y dyfarniad wedi codi o £750 i £1,000 mewn unrhyw flwyddyn ariannol (Ebrill i Mawrth).
- Gall clybiau chwaraeon wneud cais am ddau ddyfarniad ym mhob blwyddyn ariannol. Gall pob dyfarniad fod hyd at uchafswm o £1,000. Fodd bynnag, mae’n rhaid i un o’r dyfarniadau hyn fod ar gyfer gweithgaredd corfforol nad yw’n cael ei gynnig gan yr ymgeisydd fel arfer e.e. cynnig gweithgareddau cerdded neu feicio yn y clwb.
- Mae’r Cyngor Chwaraeon yn awyddus i weld clybiau’n datblygu’n ganolfannau cymunedol drwy arallgyfeirio’r cyfleoedd gweithgarwch corfforol sydd ar gael, fel cyfrwng i annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach. Er enghraifft, gallai Clwb Rygbi Unrhyw Dref wneud y ceisiadau a ganlyn :
- Clwb Rygbi Unrhyw Dref (cais 1) - £1,000 tuag at wella cymwysterau hyfforddi a sefydlu tîm rygbi newydd i ferched.
- Clwb Rygbi Unrhyw Dref (cais 2) - £1,000 tuag at dreialu rhaglen 10 wythnos o gyfleoedd gweithgarwch corfforol ehangach, yn cynnwys: dosbarthiadau cadw’n heini yn y clwb, rhaglen o deithiau cerdded a theithiau beicio’n gadael o’r clwb .
Ffurflen Gais Cist Gymunedol
Mae'r ddogfennau yma ar gael i ddadlwytho yn fformat isod:
Ffurflen Gais - Fersiwn Word 695Kb 
Ffurflen Gais - Fersiwn PDF 636Kb 
Cyfarwyddyd Ymgeisio - Fersiwn Word 26Kb 
Cyfarwyddyd Ymgeisio - Fersiwn PDF 11Kb 
Helpu - Fersiwn Word 29Kb 
Helpu - Fersiwn PDF 18Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
Llwytho Lawr - Cyngor Chwaraeon Cymru.
Dychweler ffurflenni cais at:
Tîm Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297359
|