Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cynllun Grantiau Bach Sportlot

 

Bwriad Cynllun Grantiau Bach SPORTLOT yw cefnogi gweithgareddau a fydd yn cynyddu cyfranogiad a gwella safonau perfformiad o fewn chwaraeon, yn enwedig ymhlith plant, merched, a grwpiau sydd dan anfantais neu a eithrir.

Dylai ceisiadau am nawdd fod ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd, ychwanegol neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon. Bwriad y cynllun yw cefnogi’r chwaraeon hynny sy’n dibynnu ar offer drud i ddarparu’r cyfleuster sy’n angenrheidiol i gymryd rhan yn y chwaraeon hynny.

Beth sy'n gymwys?

Ceisiadau i brynu eitemau o offer chwaraeon newydd neu ychwanegol sy’n costio mwy na £750 a llai na £10,000. Diffiniad o offer chwaraeon yw bod:-

  • yr offer yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol i chwarae neu hyfforddi ar gyfer chwaraeon;

  • yr offer hyd yn para pum mlynedd neu fwy;

  • yr offer yn symudol ac nad yw wedi ei osod yn barhaol.

Bydd Cyngor Chwaraeon Cymru yn ystyried noddi costau ariannol y datblygiad chwaraeon hyd at uchafswm o £750 pan fo’r rhain â chysylltiad annatod â’r prosiect offer. Dyma enghreifftiau o’r mathau o gostau ariannol a allai fod yn gymwys:

  • addysg i hyfforddwyr;

  • eitemau bach o offer nad ydynt yn bersonol;

  • costau cychwyn clwb neu dîm newydd;

  • cyfleoedd cystadlu newydd;

  • darpariaeth hyfforddi newydd neu ychwanegol;

  • deunyddiau hyrwyddo.

Pwy sy'n gymwys?

Gall unrhyw sefydliad sy’n ddilys ac wedi’i sefydlu’n gywir wneud cais.

Sut i wneud cais?

Cysylltwch â’ch Cyngor Chwaraeon Cymru rhanbarthol i gael ffurflen gais a nodiadau cymorth.

Ffôn: 01244 822625 neu 01244 822600

Cyngor Chwaraeon Cymru
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Queensferry
Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint

 
English
 

Cyswllt i

Cist Gymunedol
Cynllun Grantiau Bach Sportlot
Sportsmatch Cymru
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint