|
Cafodd y parc sgrialu symudol ei gaffael mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc a Phartneriaeth Gymunedol Dyffryn Dyfrdwy. Prif nod y swydd hon yw helpu i gynyddu'r ddarpariaeth chwaraeon ar olwynion yng nghymunedau de Wrecsam.
Gofynnwyd am y Parc Sgrialu gan bobl leol er mwyn darparu gweithgareddau hygyrch i bobl ifanc ar draws 5 o gymunedau yn ne Wrecsam. Mae'r rhain yn cynnwys Acrefair, Cefn Mawr, Plas Madoc, Rhiwabon a Chefnbychan. Caiff y cynllun ei ariannu ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth Cathleen Davies, sy'n darparu cefnogaeth ariannol i brosiectau cymunedol yn yr ardal leol.
Nod y cynllun
Nod y cynllun yw hyrwyddo chwaraeon ar olwynion yn y cymunedau lleol o amgylch Plas Madoc. Mae'r rhain yn cynnwys sgrialu, sglefrolio a beicio BMX.
Prif nod y parc sgrialu yw cynyddu ymglymiad hirdymor chwaraeon ar olwynion trwy gyfranogi, gwirfoddoli a hyfforddi.
Amcanion
- Cynyddu nifer y cyfranogwyr mewn chwaraeon ar olwynion.
- Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n gysylltiedig â'r gymuned leol
- Cynnig cyfleoedd datblygiad personol i bobl ifanc megis cymwysterau a phrofiad o weithio gyda phlant.
- Darparu amgylchedd dysgu diogel ar gyfer cyfranogiad dan oruchwyliaeth gyda hyfforddiant a chyngor ar gael.
Grwpiau targed
Bydd y sesiynau'n targedu nifer o grwpiau gan gynnwys:
- Grwpiau ieuenctid yn y 5 cymuned
- Ysgolion, yn ystod amser cinio a chlybiau ar ôl ysgol.
- Clybiau sglefrolio lleol - cystadlaethau
- Pobl ifanc leol
Partneriaid
Ariannwyd y parc sgrialu'n rhannol gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Rhannwyd y gweddill rhwng tri phartner lleol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc
- Partneriaeth Gymunedol Dyffryn Dyfrdwy
Gan fod y cyllid wedi'i rannu'n dri, rhaid i ddefnydd y parc gwmpasu holl ofynion y tri sefydliad partner yn ogystal â'r pum cymuned.
Cydlynydd y Parc Sgrialu
Rôl Cydlynydd y Parc Sgrialu yw:
- Hwyluso defnydd y parc sgrialu rhwng y pum cymuned
- Recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal sesiynau
- Cynorthwyo i osod a chludo'r parc
- Creu rhaglen addysg i hyfforddwyr a chynllun gwobrwyo ar gyfer cyfranogwyr
Sicrwydd Ansawdd
Mae'r holl staff sy'n gysylltiedig â'r cynllun yn hollol gymwys; maent wedi bod yn destun gwiriadau gan yr heddlu ac maent wedi cael hyfforddiant amddiffyn plant.
Bydd gofyn i wirfoddolwyr ymuno â Rhaglen Gwirfoddolwyr Datblygu Chwaraeon Wrecsam a chwblhau'r canlynol:
- Gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Hyfforddiant cymorth cyntaf
- Hyfforddiant codi a symud â llaw
Bydd gofyn i hyfforddwyr gwblhau'r canlynol:
- Diogelu ac Amddiffyn Plant - Sports Coach UK
- Hyfforddiant asesu risg
- Hyfforddi plant a phobl ifanc mewn chwaraeon - Sports Coach UK
Gwybodaeth gyswllt
Cydlynydd y Parc Sgrialu
Tîm Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Tîm Datblygu Chwaraeon
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297357
Ffacs: 01978 297351
Ebost: sportsdevelopment@wrexham.gov.uk
|