Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datblygu Rygbi

 

Amcan

Rôl y Swyddog Datblygu Rygbi yw datblygu cyfranogiad Rygbi Undeb o fewn ffiniau Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid yw’n ymagwedd elitaidd; mae’n raglen sylfaenol gydag ardderchogrwydd yn ganlyniad o gymryd rhan.

Mae’r swydd yn hanfodol i hyrwyddo datblygiad rygbi ar gyfer bechgyn a merched ym mhob cyfnod o lwybr rygbi Undeb Rygbi Cymru (URC).

Mae defnyddio cynllun datblygu rygbi cynhwysfawr wedi sicrhaumwy o gyfleoedd chwarae.

Cefndir

Ers 1996, bu i gysylltiadau agos o fewn y gymuned, ysgolion a chlybiau gael eu meithrin gan arwain at gynnydd mewn cyfranogiad chwaraewyr. Ategir at y gwaith hwn gyda chyrsiau addysgu i hyfforddwyr URC, sy’n gwella safon hyfforddwyr o fewn clybiau ac ysgolion yn ogystal â meithrin hyfforddwyr newydd.

Cred Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Rygbi’r Ddraig y gall pobl ifanc gyflawni llwyddiant orau drwy egwyddorion gweithio fel tîm, chwarae’n deg, sgiliau, arweinyddiaeth, ffitrwydd a hwyl.

Gweithgareddau

Sut allaf ddechrau chwarae rygbi?
Mae Clwb Rygbi Wrecsam yn cynnal sesiynau hyfforddi rygbi bob dydd Sul ar gyfer pob grwp oedran o 8 oed hyd at 16 mlwydd oed. Cynhelir y sesiynau hyn gan hyfforddwyr cymwysedig yng Nghlwb Rygbi Wrecsam, Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam. Gwiriwch wefan Clwb Rygbi Wrecsam am fanylion pellach.

Sut allaf gymryd rhan mewn hyfforddi rygbi?
Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cyfres o gyrsiau i annog rhieni, cyn-chwaraewyr, ac athrawon i gymryd rhan mewn hyfforddiant rygbi. Y lefel gyntaf yw gwobr rhagarweiniol. Ar ôl mynychu’r cwrs hwn byddwch yn gallu cynorthwyo mewn hyfforddiant rygbi i bobl ifanc yn y clwb.

Os ydych am gael mwy o ran mewn hyfforddi rygbi, yna gellwch fynychu cwrs rygbi Lefel 1. Ar ôl mynychu’r cwrs hwn byddwch yn gallu hyfforddi pobl ifanc ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, annogir cefnogaeth gan hyfforddwyr eraill bob amser.

Pryd cynhelir y cyrsiau?
Am wybodaeth bellach ynghylch cyrsiau Addysgu Hyfforddwyr Rygbi >>

A yw rygbi’n cael ei chwarae mewn ysgolion cynradd?
Cymerodd 35 o ysgolion cynradd ran yn nhwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd ar gyfer blwyddyn 5/6 ysgolion cynradd y llynedd. Cystadleuaeth rygbi cyffwrdd yw hon. Cynhelir gwyliau lleol mewn 6 lleoliad gwahanol ac mae’r ddau dîm gorau yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol. Fel arfer cynhelir y gêm derfynol yng Nghae Ras Wrecsam neu Glwb Rygbi Wrecsam.

Roedd 8 ysgol gynradd yn cystadlu yn y twrnamaint rygbi cyffwrdd ym mis Tachwedd. Mae hwn ar gyfer ysgolion sydd wedi chwarae rygbi o’r blaen ac y mae’r plant yn gallu taclo’n ddiogel.

Gall ysgolion cynradd sy’n cymryd rhan yn y twrnamaint fanteisio drwy dderbyn offer oddi wrth URC, derbyn hyfforddiant gan y Swyddog Datblygu Rygbi a mynychu cwrs hyfforddi a anelir yn arbennig at athrawon.

A yw rygbi’n cael ei chwarae mewn ysgolion uwchradd?
Chwaraeir rygbi mewn rhai ysgolion uwchradd. Cynhelir twrnameintiau yn rheolaidd ar gyfer yr ysgolion hynny sydd â thîm. Gwahoddir unrhyw chwaraewyr sydd â photensial i Glwb Rygbi Wrecsam am dreialon.

Byddaf yn ymweld ag unrhyw ysgol uwchradd a darparu hyfforddiant am ddim, os yw’r ysgol yn cytuno i redeg tîm. Gall yr ysgol hefyd fanteisio ar nawdd oddi wrth URC am gludiant i’r gemau ac unrhyw offer sydd ei angen.

Sut allaf gael nawdd ar gyfer fy nhîm?
Edrychwch ar yr adran Grantiau ar dudalennau gwe Datblygiad Chwaraeon.

Cysylltiadau Defnyddiol

Clwb Rygbi Wrecsam.

Gwefan swyddogol Clwb Rygbi Wrecsam

Undeb Rygbi Cymru

Gwefan Swyddol URC.

Swyddog Datblygu Rygbi
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 297355
Ffacs:
01978 297351

 
English
 

Cysylltiadau Perthnasol

5x60 Ewch gydar llif
Nofio
Rygbi
Tennis
Pêl-droed
Parc Sgrialu Symudol
Chwaraeon Anabledd
Iechyd
Hyfforddiant
Gwirfoddolwyr
AG a Chwaraeon Ysgol
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint