Pam fo angen y cynllun hwn arnom:
Un o dargedau allweddol Strategaeth Chwaraeon a Chadw'n Heini Llywodraeth Cynulliad Cymru – Dringo'n Uwch - yw annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw'n heini a gwneud hyn 5 x 30 munud yr wythnos. Er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n gwneud ymarfer corff cymedrol o 30% i 50% yn yr 20 mlynedd nesaf, bydd gofyn i 20,000 mwy ohonom gyrraedd y lefel hon ledled Cymru.
Amcan y cynllun:
Fel rhan o Her Awyr Agored Gogledd Cymru, mae chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru wedi dod at ei gilydd i ddatblygu o leiaf 5 taith gerdded dros y 12 mis nesaf. Y nod yw annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff yn amlach. Bydd pob taith yn cymryd rhyw 30 munud a bydd yr ymarfer corff yn amrywio o feicio, cerdded neu lonciau i gyfeiriadu.
Os nad ydych yn gwneud ymarfer corff ar hyn o bryd ond yn dymuno ymgymryd ag argymhelliad y Llywodraeth o 5 x 30 munud o ymarfer corff yr wythnos, mae taith newydd wedi ei lansio yn Nyfroedd Alun felly beth am lawrlwytho'r daith a rhoi cynnig arni heddiw.
Yn y cyntaf o deithiau yn Wrecsam, bydd taith gerdded 30 munud o gwmpas Parc Gwledig Dyfroedd Alun (ochr Llai); ewch i www.northwalesoutdoorchallenge.co.uk i ddod o hyd i'r map a'r daith gerdded.
Eich her yw mynd i www.northwalesoutdoorchallenge.co.uk a dod o hyd i'r 5 x 30 munud arall ledled Wrecsam a Gogledd Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Uned Datblygu Chwaraeon ar 01978 292088.
Cysylltau Allanol
|