Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Iechyd

 

Nod

Nod y Swyddog Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yw datblygu mentrau iechyd o fewn ardal Wrecsam a darparu rhaglen ymarfer corff i bobl sydd wedi cael trawiad ar y galon.

Cefndir

Mae’r swydd Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yn fenter a gaiff ei ariannu ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Ysbytai Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y ddau brif gynllun sy’n cael eu rhedeg gan y Swyddog Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yw’r Rhaglen Adfer y Galon a Dechrau o’r Newydd.

Adfer y Galon

Mae Adfer y Galon Cyfnod IV yn gynllun arall, sy’n darparu’r cyfle i gleifion o Adran Adfer y Galon Ysbyty Maelor Wrecsam barhau â’u cynllun ymarfer corff o dan amodau diogel.
Ceir gwybodaeth bellach ar weithgarwch corfforol a Chlefyd y Galon ar wefan Sefydliad y Galon Prydeinig.

Dechrau o'r Newydd

Mae Dechrau o’r Newydd yn gynllun ymarfer corff gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y sawl sy’n cael eu cyfeirio ato. Mae’n darparu rhaglen o weithgareddau mewn canolfannau hamdden lleol. Mae’r cynllun yn caniatáu i ofalwyr iechyd proffesiynol nodi’r rhai hynny a fyddai’n elwa o fwy o weithgareddau corfforol a’u cyfeirio i gael ymarfer corff diogel ac effeithiol gan hyfforddwyr ymarfer corff sydd wedi eu hyfforddi.

Rhai cwestiynau a ofynnir yn aml..

Beth sy'n digwydd?

Bydd y gofalwr iechyd proffesiynol yn anfon manylion at hyfforddwr ymarfer corff mewn canolfan hamdden lleol, a byddant hwy wedyn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i ymarfer. Gallwch ddewis o amryw o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Dosbarthiadau ymarfer ocrff penodol
  • Aquacise
  • Y cynllun Cerdded Llwybr Iechyd
  • Ymarfer corff o fewn y gym
  • Nofio

Oes raid i mi fod yn heini?

Nac oes, gall ymarfer corff fod o fudd i bobl o bob oedran, ac amryw o lefelau ffitrwydd. Caiff eich rhaglen ymarfer corff chi ei haddasu yn ôl eich cyflymdra a’ch nod eich hun.

Pryd fydd raid i mi fynychu?

Mae amryw o sesiynau ar gael drwy gydol y dydd a chyda’r nos gan gynnwys penwythnosau ym mhob un o’n pump prif ganolfan, sef:

Cynhelir rhai sesiynau penodol fel a ganlyn:

Adfer y Galon

Byd Dwr (Gym)
Dydd Mawrth 10.00am - 12.00 canol dydd
  1.30pm - 4.00pm
Dydd Mercher 7.00pm - 9.00pm
Dydd Iau 9.00am - 12.00 canol dydd
  1.30pm - 4.00pm
Canolfan Hamdden Plas Madoc (Gym)
Dydd Llun 3.00pm - 4.00pm
Dydd Iau 2.00pm - 3.00pm
Dydd Sadwrn 11.00am - 12.00 canol dydd
Canolfan Hamdden Y Waun (Gym)
Dydd Llun 1.00pm - 3.00pm
Dydd Mercher 2.00pm - 3.00pm
Dydd Iau 1.00pm - 3.00pm

Adfer y Galon a Dechrau o'r Newydd

Gwyn Evans (Aquafit a Nofio)
Dydd Llun 12.00 canol dydd - 12.45pm
Canolfan Hamdden Y Waun (Gym)
Dydd Mawrth 3.00pm - 4.00pm
Dydd Iau 4.00pm - 5.00pm

Faint mae'n costio?

Ar gyfer Dechrau o’r Newydd ac Adfer y Galon, bydd deg sesiwn cyntaf eich rhaglen ymarfer corff yn costio £6.00 i chi, ac ar ôl hynny byddwch yn talu £1.50 y sesiwn. Caniateir i chi hefyd ddod â phartner gyda chi i’r sesiynau ymarfer corff am bris ‘partner’ gostyngol.

Beth yw manteision ymarfer corff tymor hir?

  • Gwell lefelau egni drwy ffitrwydd/stamina uwch
  • Mae’n helpu i gynnal cyhyrau cryf a chymalau ystwyth
  • Cymdeithasu a gwneud ffrindiau
  • Llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a thrawiad
  • Helpu i reoli pwysedd gwaed
  • Rheoli pwysau
  • Gwella siâp y corff/ffurf y cyhyrau
  • Lleihau straen/poen meddwl
  • Gwella hyder/hunan-barch
  • Mwynhad a theimlad o gyflawniad
  • Cynnal eich iechyd, drwy atal neu wella anhwylderau megis clefyd siwgr ac osteoporosis.

Mae’r Cynllun Dechrau o’r Newydd hefyd yn gysylltiedig â’r cynllun “Cerdded Llwybr Iechyd” a “Gym Gwyrdd” fel modd o wella lefelau ymarfer corff. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Walking the Way to Health Initiative.

Gwaith estyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn ceisio ymestyn cyfleoedd i’r cymunedau lleol yn ogystal â mewn canolfannau hamdden. Un ardal o’r fath yw Brynteg, lle caiff sesiynau ymarfer corff eu cynnal yn rheolaidd yn y Ganolfan Coffa ar ddydd Llun o 9.30am-10.30am.

Pobl dros 50 mlwydd oed

Ydych chi dros 50?

Ydych chi am...

  • gynnal neu wella eich cyflwr corfforol?
  • leihau faint o nerth/ystwythder a gollir yn eich cyhyrau?
  • wella eich cydbwysedd a’ch cyd-symudiad?
  • wella cryfder eich esgyrn?
  • wella eich cyflwr meddygol?

Erbyn hyn mae sesiynau ymarfer corff ar gael ym mhob un o ganolfannau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n arbennig ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed.

Byd Dwr (Gym)
Dydd Iau 1.30pm - 4.00pm
Canolfan Hamdden Plas Madoc (Dosbarth)
Dydd Mercher 1.30pm - 4.00pm
Canolfan Hamdden Y Waun
Dydd Llun 3.00pm - 4.00pm
Dydd Mercher 1.30pm - 2.30pm
Dydd Iau 1.30pm - 3.30pm
Gwyn Evans
Dydd Llun 3.00pm - 4.00pm (Nofio)
Dydd Iau 3.00pm - 3.30pm (Aquafit)

Am fwy o wybodaeth am Ganolfannau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam >>

Swyddog Datblygu iechyd y Galon Cymunedol
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 297361
Ffacs:
01978 297351

 
English
 

Cysylltiadau Perthnasol

5x60 Ewch gydar llif
Nofio
Rygbi
Tennis
Pêl-droed
Parc Sgrialu Symudol
Chwaraeon Anabledd
Iechyd
Hyfforddiant
Gwirfoddolwyr
AG a Chwaraeon Ysgol
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint