Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Mae Rhaglen Datblygu Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru’n fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r cynllun wedi’i anelu at ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cymunedol o ansawdd i bobl anabl ledled Cymru.
Mae’r rhaglen yn cael ei hyrwyddo a’i darparu trwy rwydwaith o Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru; gan weithio gyda phlant ac oedolion, yr holl grwpiau anabl a’r holl chwaraeon.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n anelu at :
- greu clybiau newydd a rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i wella clybiau presennol
- cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cyfranogi’n weithredol mewn clybiau, grwpiau a sesiynau chwaraeon
- gwella ansawdd a nifer y hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr mewn chwaraeon anabledd trwy addysg i hyfforddwyr a systemau eraill
- creu cyfleoedd newydd a datblygu cyfleoedd presennol i bobl anabl gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- gweithio’n agos â Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol y ffederasiwn er mwyn sicrhau bod unigolion sydd â photensial yn cael cyfle i hyfforddi ac i gystadlu i’r safonau uchaf, lle bo hynny’n briodol.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y chwaraeon a’r gweithgareddau sydd ar gael yn Wrecsam a’r cyffiniau, ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru www.chwaraeon-anabledd-cymru.org a chliciwch ar ‘yn eich ardal’. Gallwch gysylltu â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Wrecsam trwy’r dulliau isod.
Gwybodaeth gyswllt:
Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Datblygu Chwaraeon
Byd Dŵr Wrecsam
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297360
Gwefan: www.chwaraeon-anabledd-cymru.org
Cerdyn
D.A.S.H.
Cwestiynau
a Ofynnir yn Aml
Beth
sy'n digwydd
Sportsability
|