Mynediad Anabledd i Chwaraeon a Iechyd
Cefndir
Mae'n ffaith fod canran is o bobl ag anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon
a sesiynau corfforol o'u cymharu â'r rheini heb anableddau.
Gellir nodi sawl ffactor sy'n cael dylanwad negyddol ar y lefelau y bydd
pobl sydd ag anableddau yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau
corfforol - mynediad corfforol, cludiant, addysg hyfforddwyr ac arian
yw'r rhwystrau mwyaf cyffredin.
Mae'r cynllun cerdyn DASH yn anelu at wynebu a lleddfu rhai o'r rhwystrau
ariannol a wynebir, ac yn annog a hyrwyddo cyfleoedd i'r rhai hynny sydd
ag anableddau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol
o fewn Bwrdeistref Wrecsam.
Yr egwyddor
Pan luniwyd y Cynllun Cerdyn DASH, nodwyd y tri ffactor canlynol fel
amcanion allweddol ar gyfer y cynllun.
1. Dileu rhwystrau a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau
corfforol.
2. Gwella cyfathrebiaeth er mwyn nodi anghenion a gwella'r gwasanaeth.
3. Gwella lefelau iechyd a ffitrwydd ymysg pobl sydd ag anableddau.
Gwnewch ddefnydd llawn o gyfleusterau
chwaraeon drwy wneud cais am eich Cerdyn D.A.S.H. eich hun >>
Caniateir i'r rhai hynny sydd â cherdyn ddefnyddio'r holl gyfleusterau
yn y Canolfannau Hamdden a Gweithgareddau canlynol: Canolfan
Hamdden Plas Madoc, Canolfan
Chwaraeon Gwyn Evans, Byd
Dwr, Stadiwm
Queensway, Canolfan
Hamdden Y Waun, Canolfan Hamdden Clywedog, Canolfan Chwaraeon Rhiwabon a Chanolfan
Chwaraeon Darland. Mae’r cyfleusterau ar gael bob amser ac am HANNER PRIS. Os bydd angen, gall un oedolyn (neu ofalwr) ddod gyda’r unigolyn am ddim i’w gynorthwyo i gael mynediad at ein cyfleusterau.
I fod y gymwys i gael Cerdyn D.A.S.H. mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn
gymwys i gael un o'r canlynol:
-
Lwfans Byw i'r Anabl
-
Elfen Anabledd Credyd Treth Gwaith
-
Lwfans Gweini
Ffurflen Gais am Gerdyn D.A.S.H.
Mae ffurflenni cais ar gyfer cardiau D.A.S.H. ar gael o’ch Canolfan Hamdden a Gweithgareddau lleol.
Am fwy o wybodaeth, cyswllt eich canolfan hamdden a chwaraeon.
|