Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Yst8-i-16

 

Sefydlwyd y fenter Yst8-i-16 ym mis Mehefin 2002 gan Dîm Datblygu Chwaraeon yr Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad hirdymor mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon trwy godi ymwybyddiaeth o ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw ymhlith pobl ifanc a’u teuluoedd.  Gall gweithgarwch corfforol gael effaith bositif ar fywydau pobl ifanc.  Mae’r cynllun wedi gallu datblygu ymhellach trwy dderbyn cyllid gan Cymorth am 3 blynedd arall.

Nod y cynllun yw gwneud ymarfer corff yn fwy hygyrch a fforddiadwy i unigolion ac mae ar gael i bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed sydd ag anawsterau meddygol, emosiynol neu iechyd meddwl ‘ysgafn’. Anela’r cynllun at roi cyfle i bob unigolyn ifanc sy’n disgyn o fewn y categori hwn i gael mynediad at y cynllun os ystyrir y gall ymarfer corff gael effaith bositif ar eu bywydau.

Nod y cynllun

Prif nod Yst8-i-16 yw cynyddu cyfranogiad hirdymor mewn ymarfer corff a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw i bobl ifanc a’u teuluoedd.

Amcanion

  • Darparu cyfleoedd ymarfer corff cynaliadwy i bobl ifanc sy'n rhan o'r cynllun.
  • Asesu anghenion cleientiaid unigol gan gynnig cyngor a chefnogaeth barhaus.
  • Annog unigolion i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'u ffordd o fyw.
  • Gwerthuso a monitro'r cynllun a'i effaith.
  • Meithrin cysylltiadau rhwng partneriaid atgyfeirio a gwasanaethau hamdden y Cyngor.

Argymhellion priodol

Mae'r cynllun ar gael i bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed sydd ag un neu fwy o'r anhwylderau meddygol 'ysgafn' isod a'u hanawsterau emosiynol 'ysgafn':

  • Clefyd siwgr (sy'n cael ei reoli)
  • Asma
  • Gordewdra
  • Anhwylderau bwyta
  • Anhwylderau Cymhellol Obsesiynol
  • Anhwylder Diffyg Talu Sylw a Gorfywiogrwydd (ADHD)
  • Iselder ysbryd
  • Diffyg hunan barch
  • Anhwylderau pryder
  • Anhwylderau penodol sy’n effeithio ar ddatblygiad sgiliau symud

Partneriaid Atgyfeirio

Ar y cyd â’r cleient a rhiant/gwarcheidwad, bydd y partneriaid atgyfeirio’n cwblhau ‘ffurflen atgyfeirio’ sy’n rhoi manylion am hanes meddygol, manylion personol a rheswm cryno dros yr atgyfeiriad.

Yna, caiff y manylion hyn eu hanfon ymlaen at y Cydlynydd Yst8-i-16 a fydd yn trefnu i’r camau priodol gael eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr unigolyn ifanc yn cael ei gyflwyno i’r gweithgaredd corfforol neu chwaraeon fel rhan o’r cynllun atgyfeirio.

Beth Sy’n Digwydd Nesaf?

diagram Yst8-i-16D

Gweithgareddau

  • Gwersi nofio
  • Amlchwaraeon
  • Campfa iau
  • Pêl-droed
  • Jw-jitsw
  • Carate
  • Hoci
  • Campau’r Ddraig
  • Cleddyfaeth
  • Cic-baffio
  • Trampolinio
  • Gymnasteg

Cliciwch yma am rhestr o diwyddiadau

Cost a hyd yr atgyfeiriad

Darperir y mwyafrif o weithgareddau ar gyfer y rhaglen deg wythnos yn rhad ac am ddim.  Fodd bynnag, mewn achosion pan fo trydydd parti’n darparu’r gweithgareddau hynny, gallant godi tâl.

Yn ystod cyfnod yr atgyfeiriad, bydd yr unigolyn ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff strwythuredig a fydd yn para 10 wythnos.

Sicrwydd Ansawdd

Mae pob aelod o staff sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn gymwysedig, wedi’u gwirio gan yr heddlu ac wedi cwblhau hyfforddiant am faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan, ynghyd â rhieni / gwarcheidwaid, yn cael llyfryn am y rhaglen ac apwyntiad cychwynnol gyda’r Cydlynydd Yst8-i-16.

Gwybodaeth cyswllt

Cydlynydd Yst8-i-16
Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: (01978) 297363
Ffacs: (01978) 297351
Ebost: sportsdevelopment@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Yst8-i-16
Canllaw a Digwyddiadau
Cysylltiadau Defnyddiol
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint