 Amcanion 5x60
Mae gan y rhaglen 5x60 amrywiaeth o nodau ac amcanion hirdymor a nodir, sef:
- Cynyddu canran y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon allgwricwlaidd ac ymarfer corff yn rheolaidd.
- Defnyddio ffyrdd arloesol o hyrwyddo gweithgareddau i blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn ymarfer corff fel arfer.
- Gwella agwedd disgyblion tuag at AG a chwaraeon ysgol, yr ysgol a dysgu.
- Gweithio yn yr ysgol i greu perchnogaeth 'ysgol gyfan' a datblygiad.
- Gwell cynhwysiad a disgwyliadau o bob disgybl.
- Datblygu pobl ifanc fel arweinwyr a dinasyddion gweithredol.
- Datblygu partneriaethau gyda chlybiau cymunedol lleol eraill.
- Recriwtio a chefnogi athrawon, rhieni, disgyblion hŷn a gwirfoddolwyr eraill.
- Gweithio i ddarparu cyfranogiad gydol oes gynaliadwy trwy gysylltiadau â'r partneriaid cymunedol a'r uned datblygu chwaraeon.
Beth yw 5x60?
Mae'r rhaglen 5x60 yn fenter newydd a gyflwynwyd ledled Cymru. Mae rhyw 30 o swyddogion yn gweithio mewn ysgolion uwchradd. Ar hyn o bryd, Ysgol Clywedog yw'r unig ysgol yn Wrecsam sydd â swyddog, ond yn 2007 bydd hyd at bum swyddog arall yn dechrau.
Dim ond 24% o blant oedran uwchradd sy'n gwneud 5x60 munud o ymarfer corff yr wythnos. Amlygwyd bod diffyg cyfleoedd i blant sy'n symud o Gampau'r Ddraig i flwyddyn 7 wneud gweithgareddau allgwricwlaidd.

|
5 diwrnod+ |
3-4 diwrnod |
1-2 diwrnod |
anweithredol |
| Plant 7-11 oed |
41% |
25% |
22% |
12% |
| Plant 11-16 oed |
24% |
24% |
28% |
24% |
Mae'n amlwg o'r siartiau uchod bod lleihad canfyddadwy mewn ymarfer corff yn ystod y cyfnod trosglwyddo o Gampau'r Ddraig i gyfranogiad mewn ysgolion uwchradd. Dyma le daw 5x60 i helpu.
Crynodeb
Ariennir y fenter yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi'n galluogi i benodi 'swyddog 5x60' rhan-amser. Bydd y swyddog yn gyfrifol am gynyddu nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon allgwricwlaidd ac ymarfer corff yn rheolaidd. Trwy wneud hynny, bydd y plant yn cyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cynulliad Cymru o 90% o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn rheolaidd ac yn aml erbyn 2020.
Bydd y rhaglen yn un amrywiol er mwyn darparu cydbwysedd o gyfleoedd chwaraeon cystadleuol/ffurfiol trwy fframwaith cenedlaethol o gystadlaethau strwythurol o fewn ysgolion neu rhwng ysgolion gyda'r nos neu ar benwythnosau; sesiynau hyfforddi mewn nifer o wahanol chwaraeon a chyfleoedd adloniant/anffurfiol. Bydd y swyddog 5x60 hefyd yn darparu ystod ehangach a mwy o amrywiaeth trwy gynnwys gweithgareddau megis dawns, erobeg, cerdded a beicio. Felly bydd yn gwella'r rhaglen bresennol a gynigir gan yr adran Addysg Gorfforol.
Ar hyn o bryd mae'r swyddog 5x60 yn cynllunio, cydlynu a gweithredu'r fenter 5x60 a argymhellir. Mae hyn yn cynnwys gwneud gweithgaredd sy'n para 60 munud, 5 gwaith yr wythnos. Caiff gwirfoddolwyr, athrawon, rhieni a hyfforddwyr eu defnyddio a'u recriwtio i gynyddu'r cyfleoedd a roddir i ddisgyblion Ysgol Clywedog i wneud chwaraeon allgwricwlaidd. Bydd y rhaglen hon yn gweithio i ddarparu cyfranogiad gydol oes cynaliadwy trwy gysylltiadau â phartneriaid cymunedol ac yn ymdrechu i ddefnyddio ffyrdd arloesol o hyrwyddo gweithgareddau i blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden fel arfer.
Gan fod y rhaglen hon yn fenter tair blynedd, bydd pob ysgol uwchradd arall yn cael cyfle i ymuno â'r cynllun 5x60 ar ryw bwynt yn ystod y tair blynedd nesaf. Yn olaf, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru'n anelu at gael swyddog 5x60 mewn 85% o ysgolion uwchradd erbyn 2009.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn perthynas â hyfforddi neu os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â'r swyddog 5x60:
Tîm Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297357
E-bost: sportsdevelopment@wrexham.gov.uk
|