|
Lleolir Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhosnesni ar diroedd Ysgol Uwchradd Rhosnesni yn Lôn Rhosnesni yn nhref Wrecsam.
Yn ddiweddar cwblhawyd rhaglen ailwampio lawn, sy’n ei gwneud yn bosibl i ni gynnig ystod o weithgareddau i oedolion a phlant.
Cyfleusterau
Pwll Nofio
Pwll nofio 20m o hyd ac 8.5m o led
Yn cynnig gwersi nofio Cwricwlwm Cenedlaethol i blant ar nos Lun a nos Fawrth a bob bore dydd Sadwrn i blant rhwng 4 – 16 oed.
Yn cynnig hyfforddiant cynhwysol Clwb Nofio Wrecsam o ddydd Llun –dydd Gwener ar amseroedd gwahanol.
Y Neuadd Chwaraeon
Ar gael i’w llogi ar gyfer Badminton, pump pob ochr, Pêl-rwyd, Tennis Bwrdd ar sail neilltuo bloc neu ar sail achlysurol. Noder: Rhaid talu am sesiynau a neilltuir ar sail achlysurol gyda cherdyn debyd neu gredyd.
Y Gampfa
Dydd Llun: 7.00-8.00pm – Clwb Carate i Blant Iau,
Dydd Mercher: 7.00-8.00pm – Hyfforddiant Cylchol
Yn ôl i'r brig
Manylion Cyswllt
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhosnesni
Lôn Rhosnesni
Wrecsam
LL14 2TN
Ffôn: 01978 358967
ebost: rhosnesni.sportscentre@wrexham.gov.uk
Yn ôl i'r brig
Rhestr Brisiau
Y Neuadd Chwaraeon
Y Neuadd Lawn i Oedolion: £26.00
Y Neuadd Lawn i Blant Iau: £11.00
Oedolion (y cwrt): £6.80
Plant iau (y cwrt): £3.50
Y gampfa
Oedolion: £16.50
Plant iau: £13.20
Cae Tywarchen Artiffisial
Y cae llawn i oedolion: £50.00
Yr hanner cae: £25.00
Y cae llawn i blant iau: £35.00
Yr hanner cae i blant iau: £17.50
Gwersi Nofio
Cynhelir Gwersi Nofio yn ystod tymor yr ysgol. Maent yn costio £4.20 y wers, felly bydd cwrs 10 wythnos yn costio £42.00. Rhaid talu’n llawn am gyrsiau erbyn dechrau’r wers gyntaf.
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r cyfleuster.
|