Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon

 

Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon yn gyfleuster ardderchog a fwriadwyd i fod yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygu criced. Ond darperir amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon eraill hefyd, er mwyn annog plant a'r gymuned i gymryd rhan.

Ydych chi'n chwilio am rywle i hyfforddi neu chwarae?

Y Canolfan Hamdden a Gweithgareddau   Partïon Pen-blwydd i Blant
Dosbarthiadau Ffitrwydd   Clwb y Plant
Clybiau a Sesiynau   Amseroedd Agor
Costau Cyffredinol y Cyfleusterau   Manylion Cyswllt
Man Gemau Amlddefnydd dan Lifoleuadau   Map Lleoliad

Y Canolfan Hamdden a Gweithgareddau

Llun o ystafell chwaraeon amlddefnyddCeir neuadd chwaraeon â phedwar cwrt badminton, ystafell erobeg / seminar ac ystafell chwaraeon amlddefnydd â llifoleuadau, ac maent i gyd ar gael i'w llogi. Lleolir y cyfleuster y tu ôl i Ysgol Uwchradd Rhiwabon.

Man Gemau Amlddefnydd dan Lifoleuadau

Yn Galw Holl Glybiau Pêl-Droed!

Mae'r man gemau amlddefnydd dan lifoleuadau yn Adeilad Chwaraeon Rhiwabon ar gael i chi ei hurio!

Gallwch ei hurio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 5.00pm a 10.00pm a rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sul.

Am wybodaeth bellach ar sut i neilltuo'r cyfleuster, ffoniwch Adeilad Chwaraeon Rhiwabon ar 01978 822978.

Clwb y Plant

  • Cynhelir Clwb Gwyliau’r Plant yn ystod holl wyliau’r ysgol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau o 8.30am – 5.00pm.

  • Ceir digonedd o chwaraeon, gweithgareddau celf a chrefft, hwyl a gemau!

  • £10 y diwrnod neu £27 am y tri diwrnod (wythnos). Codir tâl ychwanegol am unrhyw deithiau oddi ar y safle.

  • Ar gael i blant rhwng 8 a 13 oed.

  • Dewch â phecyn cinio a digon o ddiodydd!

Costau Cyffredinol y Cyfleusterau

Hamdden Pur

Lleoliad Gweithgaredd Pris Pris â cherdyn hamdden
Prif Neuadd Oedolion £23.00 £22.00
Plant £12.00 £11.00
Badminton Oedolion £5.75 £5.50
Plant £3.00 £2.75
Criced Lôn - Oedolion £5.75 £5.50
Lôn - Plant £3.00 £2.75
Hurio’r peiriant bowlio (yr awr)
(*Sylwch, mae’n rhaid i chi fod yn hyfforddwr â chymwyster ECB Lefel 2 i ddefnyddio’r peiriant bowlio)
£2.50 £2.50
MUGA Cwrt Llawn - Oedolion £27.00 £27.00
Cwrt Hanner - Oedolion £13.50 £13.50
Cwrt Llawn - Plant £17.30  
Cwrt Hanner - Plant £8.65  
Dosbarthiadau Ffitrwydd Erobeg £3.30 £3.10
Ioga Egnïol £3.30 £3.10

Mae cardiau Bonws 5 ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc neu'r Waun.

  • Dalwyr Cerdyn Hamdden £16.50
  • Pris safonol (i bobl heb Gerdyn Hamdden) £19.50

Cae Pob Tywydd Ysgol y Grango - am sesiwn 45 munud

Gweithgaredd Pris
Cae Llawn - Oedolion £65.00
Cae Llawn - Plant £41.60
Hanner y Cae - Oedolion £26.25
Hanner y Cae - Plant £17.50

Cyflyru Cyflawn

Dewch i ymuno â dosbarth ffitrwydd newydd ar gyfer yr haf. Gyda'r hyfforddwraig Jo Williams. Dosbarth sy'n gwella cyflwr y corff cyfan Nos Iau 7 - 8pm.

Cyswllt

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon
Ysgol Rhiwabon
Rhiwabon
LL14 6BT

Ffôn: 01978 822 978
ebost: rhiwabonsportscomplex@wrexham.gov.uk

Gweler Map Lleoliad

 
English
 

Cyswllt i

Y Canolfan Hamdden a Gweithgareddau
Dosbarthiadau Ffitrwydd
Clybiau a Sesiynau
Partïon Pen-blwydd i Blant
Manylion Cyswllt
Amseroedd Agor
Chwaraeon a Hamdden
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint