Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway

 

Yn enwog am ei gyfleusterau trac a maes, mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway wedi denu rhai o athletwyr gorau’r byd, gan gynnwys athletwyr Cymru ei hun, Colin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomas a Christian Malcolm.

Mae’r Stadiwm yn lleoliad delfrydol ar gyfer diwrnod chwaraeon ysgol, pencampwriaeth a hyd yn oed diwrnod hwyl lleol neu wyl. Gall y staff ddarparu cefnogaeth a chyngor proffesiynol i sicrhau diwrnod llwyddiannus.

Yn ogystal â bod yn lleoliad athletau rhanbarthol pwysig, mae Queensway yn lleoliad cymunedol pwysig, sy’n darparu ystod gwych o weithgareddau a digwyddiadau hamdden trwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth at ddant pawb o 6 i 60+ oed!

Dweud Eich Dweud!

Cyfleusterau Chwaraeon

PURE

Stiwdio ffitrwydd fodern sydd ag aerdymheru. Mae’n cynnwys cyfarpar cardiofasgwlaidd ac ystod o gyfarpar gwrthiant. Mae’r holl gyfarpar wedi’i gynllunio i fod yn addas i ddechreuwyr a’r bobl hynod heini a brwdfrydig.

GWELYAU HAUL

Mae dau wely haul lliw cyflym ar gael i sicrhau eich bod yn mwynhau profiad o gael lliw haul sy’n bleserus ac effeithiol. Mae Queensway yn aelod o Gymdeithas y Gwelyau Haul. Sy’n monitro a hyrwyddol arferion diogel yn y diwydiant lliw haul.

CYRTIAU SBONCEN

Mae dau gwrt sbonced/pêl-raced yn darparu amgylchedd perffaith i chwaraewyr raced. Mae’r cyfleusterau hyn yn boblogaidd, felly fe’ch cynghorir i neilltuo lle ymlaen llaw i sicrhau eich sesiwn 40 munud.

NEUADD GYMNASTEG

Cyfleuster rhanbarthol a chymunedol pwysig, sy’n darparu’r profiad gymnasteg mwyaf cyflawn yn Wrecsam. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella sgiliau cydlyniant, hyblygrwydd a nerth eich plentyn, nid oes angen edrych ddim pellach… goruchwylir a hyfforddir bob dosbarth gymnasteg o oed cyn ysgol i fyny gan staff wedi’u hyfforddi.

STADIWM ATHLETAU

Yn ogystal â bod yn lleoliad i ddigwyddiadau unigol, y Stadiwm yw cartref Clwb Athletau Wrecsam, sy’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi/cyflyru i bobl o bob oed o 8 oed+.

Er bod sesiynau ar gael trwy gydol yr wythnos, bydd y Clwb yn cael defnydd cyfyngedig o’r trac/maes ar nos Fawrth, yn dechrau am 6pm i blant 8-12 oed ac am 7.00pm i blant 13 oed – oedolion. Felly os oes gennych ddiddordeb ac yn dyheu am gael bod yn Jonathan Edwards neu’n Paula Radcliffe y dyfodol, neu’n syml, os oes gennych ddiddordeb mewn cael ychydig o gyngor i gychwyn rhaglen ffitrwydd newydd, galwch heibio ar nos Fawrth i gael sgwrs ag un o hyfforddwyr Clwb Athletau Wrecsam.

MEYSYDD PÊL-DROED PUMP-BOB-OCHR AWYR AGORED

Dau faes astroturf gyda llifoleuadau (pob maes 34m x 26m) sy’n cynnig cyfleoedd hyffroddi/gêm i glybiau neu grwpiau, i brofi eu sgiliau unigol/tîm ar faes bob tywydd. Mae’r cyfleusterau hyn yn hynod o boblogaidd, felly argymhellir neilltuo lle ymlaen llaw. Mae neilltuo maes mewn bloc am ychydig wythnosau’n sicrhau cyfnod rheolaidd bob wythnos. Mae pob sesiwn yn para am 45 munud.

CLINIG ANAFIADAU CHWARAEON

Gall ein therapydd chwaraeon hyfforddedig preswyl eich cynorthwyo â thriniaeth anaf neu leddfu straen a thensiwn gyda thyliniad chwaraeon ar gyfer y corff cyfan neu ran isaf/uchaf y corff.

Egni Pur yn Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway

Campfa gyntaf Wrecsam i blant!

Datblygwyd Egni Pur i ddarparu gweithgaredd unigryw i bobl ifanc, nid yn unig i hyrwyddo ffordd o fyw fwy heini ac iach, ond hefyd i’w hannog i gymryd rhan mewn gweithgaredd y gellir ei fwynhau trwy gydol eu bywydau.

Gall plant 8-15 oed fwynhau defnyddio offer ffitrwydd gan gynnwys ystod unigryw o beiriannau gwrthiant arbenigol yn ein campfa gyfeillgar a chynnes, lle gallant fwynhau ymarfer corff a gwrando ar y caneuon diweddaraf ar deledu digidol.

Gan fod pob plentyn yn wahanol, gall ein Hyfforddwyr Ffitrwydd cymwysedig lunio rhaglenni personol i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn mwynhau ei hunan wrth weithio tuag at wella ei ffitrwydd.

Cynhelir sesiynau ffitrwydd bob dydd Llun - dydd Iau o 5.30 – 6.30pm, am £2.30 yn unig!!

A yw’r sesiynau hynny’n anghyfleus?  Beth am wneud rhywfaint o ymarfer corff gyda’ch plant?

Mae angen i chi gwblhau sesiwn gyflwyno cyn i chi ddefnyddio Egni Pur, felly ffoniwch y dderbynfa i drefnu eich cyflwyniad ar (01978) 355826.

Bob yn Ddau!  Perffaith ar gyfer gwyliau ysgol!

Mae Bob yn Ddau yn gynllun newydd ac unigryw i rieni a gwarcheidwaid (dros 18 oed) i wneud ymarfer corff gyda’u teuluoedd.  Dewiswch amser sy’n gyfleus i chi a’r plant (8-15 oed), a mwynhewch bopeth sydd gan y gampfa i’w gynnig!

Mae Egni Pur hefyd ar gael gyda’r nos yn ystod yr wythnos (ar ôl 6.30pm) a thrwy’r dydd ar benwythnosau, felly mae’n hawdd cynnwys ymarfer corff yn eich bywyd prysur.  Byddwch yn derbyn sesiwn gyflwyno a gall staff hyfforddedig lunio rhaglenni i fodloni eich anghenion am £2.30!

Mae angen i chi gwblhau sesiwn gyflwyno cyn i chi ddefnyddio Egni Pur, felly ffoniwch y dderbynfa i drefnu eich cyflwyniad ar (01978) 355826.

Cyfleusterau Rheoliadau

Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr

Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr - fformat Word 88Kb

Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr - fformat PDF 60Kb

Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw

Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw - fformat Word 92Kb

Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw - fformat PDF 23Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 

 
English
 

Cyswllt i

Queensway
Cyfleusterau Chwaraeon
Iechyd & Ffitrwydd
Oriau Agor
Tâl Mynediad
Manylion Cyswllt
Chwaraeon a Hamdden
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint