Perfformio Celfyddydau Wrecsam 2008

Rhaglen celfyddydau perfformiadol ar gael nawr

Mae rhaglen celfyddydau perfformiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y Gaeaf a’r Gwanwyn ar gael nawr.  Cynhyrchwyd y rhaglen gan yr Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant ar y cyd â chyfreithwyr Allington Hughes, NEWI a Theatr y Stiwt.

Unwaith eto mae’n llawn dop ag amrywiaeth o gyngherddau a gynhelir yn Neuadd William Aston, Wrecsam a Theatr y Stiwt, Rhos.

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod am y digwyddiadau celfyddydau perfformiadol diweddaraf yn Wrecsam yn ystod y misoedd nesaf gyda’r canllaw hanfodol hwn sy’n llawn dop o sioeau a chyngherddau at ddant pawb. O bale, corau enwog, bandiau i cherddorfeydd - chi biau’r dewis!

Mae’r llyfryn ar gael o Ganolfan Groeso Wrecsam, Neuadd Goffa Wrecsam, Theatr y Stiwt, Rhos, llyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden a gweithgareddau.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Cynorthwy-ydd Marchnata ar 01978 297488.

Os hoffech gael y daflen hon mewn fformat arall, ffoniwch 01978 297488.

Perfformio Celfyddydau Wrecsam 2008

Mae'r taflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Perfformio Celfyddydau Wrecsam 2008 - Fersiwn PDF 3.8Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Cyswlltwch â ni

Swyddog Marchnata
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ty Henblas
Sgwâr y Frenhines
Wrecsam
LL13 8AZ

Ffôn: 01978 297437
Ebost: leisure@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig