Crynodeb
Cafodd pwysigrwydd chwarae plant ei gydnabod a’i weithredu arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae mwy o arian o’r Cynulliad tuag at chwarae plant a datblygu’r Polisi Chwarae cenedlaethol yn arwyddion o’i ymroddiad i chwarae plant.
Ymateb yw’r strategaeth yma i’r gydnabyddiaeth hon o fewn y Cynulliad o chwarae. Lluniwyd hi ar ran Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Wrecsam ac mae’n arwyddo ymroddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i agwedd gyfun, strategol at ddarparu ar gyfer chwarae. Y gobaith yw y bydd y strategaeth hefyd yn rhoi cyfeiriad i ddyrannu cyllid o dan gynlluniau strategol eraill fel y rhai sy’n gysylltiedig â’r gronfa Unedig newydd - Cymorth.
Cyfeiriwyd y cymorth ariannol ar gyfer chwarae o Gynulliad Cenedlaethol Cymru tuag at gyfleoedd chwarae mynediad agored i blant. Fodd bynnag, mae’r strategaeth hon yn cwmpasu rhychwant y cyfleoedd sydd ar gael i blant chwarae, o chwarae awyr agored mynediad agored, i ddarparu chwarae mwy strwythuredig.
Seiliwyd y strategaeth ar egwyddor hawl i chwarae yn ôl y datganiad yn Erthygl 31 o Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:
 |
Mae gan bob plentyn hawl i seibiant a hamdden, i gymryd rhan mewn chwarae a gweithgareddau adloniadol priodol i oed y plentyn ac i gyfranogi o wirfodd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau. |
 |
Bydd i aelod-lywodraethau barchu a hyrwyddo hawl y plentyn i gyfranogi’n llawn mewn bywyd diwylliannol a chelfyddydol a hybu darparu cyfleoedd priodol a chyfartal ar gyfer gweithgaredd diwylliannol, celfyddydol, adloniadol a hamdden. |
Mae’r strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd chwarae i holl blant a’i ran sylfaenol yn natblygiad plant. Mae hefyd yn cydnabod amrywiaeth y cyfleoedd i chwarae ddylai fod ar gael i blant i’w gweld yn datblygu’n llawn. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd agored, di-dâl i chwarae ar gyfer grwpiau rhieni a phlantos lle bydd plant yng nghwmni oedolyn. Un o egwyddorion canolog y strategaeth yw cyfleoedd i chwarae ar gyfer holl blant i heb ystyried eu hetifeddiaeth ddiwylliannol, eu dulliau byw na’u galluoedd.
Datblygwyd y strategaeth ar ôl ymgynghori â darparwyr gwasanaethau ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Sector Gwirfoddol, rhieni a gofalwyr a phlant a phobl ifanc. Ymgynghorwyd â thua 140 unigolyn, ac mae’r canlyniadau yn adlewyrchu barn a sylwadau pawb yr ymgynghorwyd â hwy.
Mae chwarae plant yn teimlo effaith, a gall effeithio ar, amrywiaeth o ddarpariaeth fel cludiant, iechyd, tai, parciau, mynediad i gefn gwlad a gofal plant. Roedd yr ymgynghori eang yn adlewyrchu hyn a dylid ystyried y strategaeth yng nghyd-destun pob un o’r gwasanaethau yma. Bydd cydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn allweddol weithredu’r strategaeth yn llwyddiannus.
Fe ystyriodd y strategaeth arweiniadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar chwarae plant, ac mae’n adlewyrchu hynny. Roedd hyn yn waith a her ynddo, gan i’r Cynulliad ddatblygu amryw ganllawiau newydd o fewn cyfnod dau fis datblygu’r strategaeth ac mae’n dal i gyhoeddi rhagor o ganllawiau. Fodd bynnag, mae’n gyfle pwysig i Wrecsam osod ei hun fel awdurdod blaenllaw wrth ddarparu cyfleoedd o safon i blant chwarae. Cam cyntaf yw’r strategaeth hon tuag at hyn.
Strategaeth Chwarae ar gyfer Wrecsam
Mae'r ddogfen ar gael i ddadlwytho yma:
PDF 1.3Mb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|