Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cylch Sgiliau Chwarae Wrecsam 2004

 

Cyflwyniad

Llun logo Cylch Sgiliau Ers i Strategaeth Chwarae 2002-2007 nodi angen am ymagwedd gyd-drefnedig a chydlynus tuag at hyfforddiant chwarae, bu adran chwarae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystyried sut i fynd i’r afael â hyn a materion eraill, gan feddwl yn y diwedd am y syniad o Gylch Sgiliau.

Rhaglen a gyflwynir yn raddol i ddechrau yw’r Cylch Sgiliau a’i nod yw datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth fydd eu hangen arnoch i ddarparu cyfleoedd chwarae ardderchog wrth weithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc yn eich uned chwarae. Bydd y Cylch Sgiliau’n cyfarfod yn anffurfiol bob chwech/wyth wythnos er mwyn i gyfranogwyr rannu gwybodaeth ag aelodau eraill y grŵp ac er mwyn monitro eu cynnydd wrth ddatblygu ac asesu eu hyfforddiant.

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael eich cynnwys, fe’ch dewisir ar sail cymeradwyaeth eich cyflogwr. Fe’ch lleolir mewn uned chwarae, gyda’r ffocws i ddechrau ar ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf y cynllun peilot. Rhoddir pwyslais ar gynrychiolaeth o amrywiaeth o leoedd chwarae er mwyn cynnig yr amrediad o gyfleoedd a gwasanaethau chwarae sydd ar gael yn y sir.

Cynnwys y Cwrs

Llun o plant yn wneud den Bydd y cwrs yn eich galluogi i weithredu’r fframwaith sicrhau ansawdd ‘Hawliad Cyntaf’ yn eich uned chwarae. Dros y tair blynedd, bydd y cwrs yn ymdrin â lefelau graddedig y fframwaith ansawdd a’i weithrediad. Bydd yn cynnwys y cwricwlwm gwaith chwarae; mathau o chwarae; dulliau ymyrryd; ffactorau sy’n penderfynu ar y math o chwarae a gynigir; y mathau o ymddygiad a welir yn yr uned chwarae, gweithrediad llwyddiannus y fframwaith ansawdd a hunan-asesu parhaus yn ogystal ag anghenion hyfforddi aelodau’r cwrs.

Asesu

Fel aelod o’r Cylch Sgiliau byddwch yn creu portffolio o hyfforddiant a phrofiad drwy rwydwaith o gydweithwyr cefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r gefnogaeth a’r ysgogiad i alluogi i’r fframwaith sicrhau ansawdd gael ei weithredu’n llwyddiannus yn eich gweithle. Bydd yn gymorth i benderfynu ar y math o hyfforddiant a geir, a fydd yn ffurfiol, megis cwrs penodol, cwrs mewnol neu gwrs a ddilynir drwy weithle aelod o’r Cylch Sgiliau. Gellir trefnu gosodiadau chwarae yn unedau chwarae’r aelodau a, thrwy’r sesiynau atborth rheolaidd a geir yn y cyfarfodydd a gynhelir bob mis /chwe wythnos, sicrheir bod cynnydd yr unigolyn yn cael ei fonitro.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r cwrs yn gynllun peilot gan y Cyngor Sir ar y cyd â mudiadau sy’n ymwneud â chwarae. Fe’i hystyrir yn gyfle i adnabod arferion da ar gyfer gwaith chwarae ac yn gyfle i feithrin gweithwyr chwarae a hyfforddwyd yn fenwol drwy roi cyfle iddynt dderbyn hyfforddiant a chyfleoedd perthnasol i ddatblygu drwy’r sector chwarae. Drwy rwydweithio, cael ymchwil newydd wrth law, mynychu cynadleddau chwarae a chyfarfod â phobl eraill sy’n gweithio mewn meysydd tebyg, gallwn godi ansawdd y cyfleoedd chwarae a ddarparwn i blant a phobl ifanc.

Amodau Gorchwyl ar gyfer Cylch Sgiliau Chwarae Wrecsam

Ddadlwytho copi or amodau gorchwyl:

PDF Adobe Acrobat Document 42kb | Word Microsoft word Document 24kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Digwyddiadau
Nawdd Grant
Strategaeth
Cylch Sgiliau
Cysylltiadau Defnyddiol
Chwarae Wrecsam

Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint