Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Chwarae Wrecsam yn Rhoi Cyfle i Blan Chwarae

 

Cyflwyniad

 

Digwyddiadau

Nawdd Grant

 

Strategaeth

Cysylltiadau Defnyddiol

 

Cylch Sgiliau

Datblygu Chwarae Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Llun o geneth yn chwarae ar swing Mae Wrecsam yn cydnabod rôl allweddol chwarae yn natblygiad plant, a bod chwarae yn digwydd y tu mewn, yn yr awyr agored ac mewn cyfleusterau dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth.

Mae Wrecsam hefyd yn deall bod angen i blant ddefnyddio ystod o gyfleoedd chwarae, ac yn cydnabod bod gan blant hawl i chwarae, a bod angen hyrwyddo, parchu a diogelu'r hawl hwn. Mae Wrecsam yn ymroddedig i hawl plant i chwarae a bydd yn rhoi'r ymroddiad hwn ar waith drwy ei Strategaeth Chwarae. Strategaeth Chwarae i Wrecsam 2002 - 2007.

Nod

Gwella ystod a safon y cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ledled y Fwrdeistref.

Amcanion

Datblygu ymagwedd gyd-drefnedig tuag at chwarae
Hybu proffil a chydnabod pwysigrwydd chwarae yn natblygiad iach plant a phobl ifanc
Datblygu gwasanaeth chwarae sy'n hygyrch i bob plentyn
Datblygu cyfleoedd chwarae newydd a rhai sy'n bodoli eisoes
Datblygu safon y cyfleoedd chwarae i blant

Nawdd Grant Chwarae

Llun o plant yn chwarae pel fasged Bydd y grant yn rhoi'r cyfle i blant chwarae a datblygu am gost isel iawn neu am ddim, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd sydd dan anfantais. Gall unrhyw sefydliad wneud cais cyn belled â'u bod o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Prif bwrpas y Grant Chwarae yw cefnogi prosiectau arloesol a fydd yn creu neu'n gwella'r ddarpariaeth chwarae bresennol. Ni roddir blaenoriaeth i offer sefydlog. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £5,000, fodd bynnag bernir ceisiadau yn ôl eu teilyngdod.

Enghreifftiau o brosiectau hyd yma

Ariannwyd cynlluniau chwarae mynediad agored mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf
Ariannwyd gweithiwr chwarae allanol yn Solway Banks
Datblygwyd Cylch Sgiliau gan dynnu gweithwyr chwarae proffesiynol eraill at ei gilydd i weithredu'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer Chwarae Mynediad Agored
Olrhain nawdd i ymestyn Storfeydd Sgrap Symudol Cymdeithas Chwarae Wrecsam i gymunedau gwledig
Gwnaed gwaith gyda chymunedau lleol i gael mynediad i lifoedd ariannu priodol i bodloni eu hanghenion - hanner peipen sgrialu Glyn Ceiriog
Gwnaed gwaith gyda gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn chwarae i ddatblygu ymagwedd gyd-drefnedig tuag at chwarae yn y Fwrdeistref gan ddarparu mannau chwarae

 

Am fwy o wybodaeth

Swyddog Datblygu Chwarae
Nghanolfan Pobl Ifanc Fictoria
13, Stryt yr Allt
Wrecsam
LL11 1SN

Ffôn: 01978 317957
Ebost: play@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Digwyddiadau
Nawdd Grant
Strategaeth
Cylch Sgiliau
Cysylltiadau Defnyddiol
Chwarae Wrecsam

Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint