Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cyfarwyddyd ar Geisiadau am Nawdd Grant 2004

 

Chwarae

Llun o fachgen yn darllen Bydd y grant yn rhoi'r cyfle i blant chwarae a datblygu am gost isel iawn neu am ddim, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd sydd dan anfantais.

Gall unrhyw sefydliad wneud cais cyn belled â'u bod o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Prif bwrpas Chwarae 2004 yw cefnogi prosiectau da fydd yn creu darpariaethau chwarae newydd neu'n gwella'r rhai sy'n bodoli eisoes. Ni roddir blaenoriaeth i offer sefydlog. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £5,000, fodd bynnag bernir ceisiadau yn ôl eu teilyngdod.

Pethau i'w hystyried wrth wneud cais

Mae ffurflenni cais ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Lluniwyd y ffurflen i fod mor syml â phosibl tra'n gwneud yn siwr fod gan y Panel Chwarae yr holl wybodaeth sydd ei angen arno i wneud penderfyniad ynghylch eich prosiect.

Oedran: 5-15

Lleoliad: Er y targedir ardaloedd sydd â thlodi cydnabyddedig yn Wrecsam, nid yw hyn yn golygu y bydd ceisiadau eraill yn aflwyddiannus, ond efallai y rhoddir llai o flaenoriaeth iddynt.

Rhaid i brosiectau fod â mynediad agored: Gall darpariaeth mynediad agored fod y tu mewn neu yn yr awyr agored, dan oruchwyliaeth neu heb oruchwyliaeth. Nodwedd allweddol darpariaeth chwarae mynediad agored yw y gall y plant eu hunain ddewis os ydynt am fynd neu ddod, ac nid oes gan y rheini sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth gytundeb â rhieni neu ofalwyr y plant i ddarparu gofal plant. Yn gyffredinol, dylai chwarae mynediad agored ddarparu profiadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

Cynaladwyedd: Dylai ceisiadau anelu at gynhyrchu newid cynaliadwy ac annog dulliau newydd o weithio, e.e. hyfforddi a datblygu staff. Dylent hefyd ddangos bod cysylltiadau ar gyfer gweithgarwch parhaus, gan hybu ymwybyddiaeth o gyfleoedd y tu allan i'ch prosiect gan sicrhau y cânt eu hyrwyddo a'u ceisio'n weithredol.

Tlodi: Bodloni'r angen am welliannau i ddarpariaethau chwarae mynediad agored yng nghymunedau tlotaf Wrecsam. Bydd tystiolaeth ategol yn helpu eich cais.

Manteision cymunedol: Dylid ystyried adfywiad partneriaethol a chymunedol. Dylid amlygu'r manteision cymunedol megis lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gynnig gweithgareddau gwrthdyniadol.

Monitro a Gwerthuso: Mae'r broses o werthuso yn hanfodol o ran penderfynu ar lwyddiant y rhaglenni. Defnyddir amcanion i wirio bod nodau'r rhaglen wedi'u cyflawni.


Sut caiff y targedau eu gwerthuso, h.y. beth sydd angen ei fesur, y niferoedd a oedd yn cymryd rhan, newid yn agwedd y cyfranogion ayb. Gellir defnyddio nifer o wahanol ddulliau o werthuso. Mae'n bwysig dangos sut caiff y targedau eu gwerthuso a'r dulliau a ddefnyddir i goladu'r wybodaeth.

Ffurflen Gais am Nawdd Chwarae

Mae'r ddogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

PDF Dogfen Adobe Acrobat 148kb | Word Dogfen Microsoft Word 714kb

Cyfarwyddyd ar Geisiadau am Nawdd Grant 2004

Mae'r ddogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

PDF Dogfen Adobe Acrobat 138kb | Word Dogfen Microsoft Word 709kb

Ffurflen Asesiad Peryglon

Mae'r ddogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

PDF Dogfen Adobe Acrobat 74kb | Word Dogfen Microsoft Word 60kb

 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Digwyddiadau
Nawdd Grant
Strategaeth
Cylch Sgiliau
Cysylltiadau Defnyddiol
Chwarae Wrecsam

Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint