 “Rhowch gynnig arnom!” Dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanol Tref Wrecsam
Bydd Rhwydwaith Chwarae Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol drwy gynnal digwyddiad agored i bawb sydd am ddim yn Sgwâr y Frenhines o 12pm i 4pm ddydd Mercher 6ed Awst 2008.
Gan ddefnyddio’r thema "Rhowch gynnig arnom!" bydd cymdeithasau sydd yn gysylltiedig â chwarae plant ledled Wrecsam yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae a fydd yn cynnwys peth elfen o berygl corfforol neu emosiynol. Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo manteision caniatáu plant i reoli eu menter eu hunain wrth chwarae, a’i amcan yw gwrthymateb i’r diwylliant ‘gwlân cotwm’ all gyfyngu ar chwarae plant. Bydd y digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb sy’n mwynhau chwarae gan gynnwys y cyfle i wlychu a baeddu, felly byddwch yn barod!
Digwyddiadau:
Cynhelir cyrsiau hyfforddi yn y dyfodol oddeutu bob deufis. Mae’r pynciau a gynllunnir ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys:
- Ionawr: Bwyd
- Mawrth: Daear
- Mai: Aer
- Gorffennaf: Gemau traddodiadol
- Medi: Dwr
Os ydych am gael eich cynnwys ar y rhestr bostio ar gyfer gwybodaeth am gyrsiau cysylltwch a’r Swyddog Datblygu Chwarae:
Swyddog Datblygu Chwarae
Nghanolfan Pobl Ifanc Fictoria
13, Stryt yr Allt
Wrecsam
LL11 1SN
Ffôn: 01978 317957
Ebost: play@wrexham.gov.uk
|