Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc

 

Ffitrwydd a hwyl i'r teulu cyfan!

Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc saith milltir o Wrecsam ar yr A539 (oddi ar yr A483).

Canolfan hamdden a gweithgareddau ranbarthol sy’n denu defnyddwyr ac ymwelwyr o bob rhan o’r gogledd ddwyrain, Swydd Amwythig a gogledd Cymru.

Dweud Eich Dweud!

 

Pwll Hamdden

Pwll Hamdden

 

Partion Plant

Chwaraeon

 

Gwybodaeth am Anableddau

Wal Ddringo

 

Ardal Gemau Amlddefnydd

Iechyd a Ffitrwydd

 

Tâl Mynediad

Dosbarthiadau Ffitrwydd

 

Oriau Agor

Pethau Plant

 

Cysylltwch â Ni

Oriel Luniau

 

Map Lleoliad

Polisi Cymarebau Nofio

 

Blas ar rywbeth gwahanol

Mae Plas Madoc yn enwog am ei Bwll Hamdden ‘Y Lagwn Trofannol’. Dyma’r lle delfrydol i’r holl deulu gael HWYL. Cerddwch ar hyd frig y don, dringwch y crocodeil, llithrwch i lawr yr eliffant a’r neidr neu chwaraewch yn y tonnau.

Llun o Pwll Hamdden

Mae’r ‘Lagwn’ yn berffaith i deuluoedd â phlant bach, oherwydd gallant chwarae yn y dwr bas ar y ‘traeth’. Mae’n lle gwych i ddysgu nofio a darperir dosbarthiadau ar gyfer pob lefel gan ein staff wedi’u hyfforddi.

Ac i’r oedolion – pam na wnewch chi roi tro ar erobeg dwr a woglo am sesiwn ffitrwydd erobeg llai egnïol?

^ yn ôl i'r brig

 

Chwaraeon

  • 2 gwrt sboncen
  • pêl-droed dan do
  • man gemau aml-ddefnydd awyr agored
  • wal ddringo dan do
  • trampolîn

2 chwrt sboncen, 4 cwrt badminton, pêl-droed dan do – mae’r cyfan ar gael yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc.

Mae’r Neuadd Chwaraeon yn un amlbwrpas ac yn lleoliad gwych ar gyfer popeth o grefft ymladd a hyfforddi cylchol i ffitrwydd merched a thennis bwrdd. Mae popeth yn digwydd ym Mhlas Madoc!

 

^ yn ôl i'r brig

Iechyd a Ffitrwydd

Mae’r Adran Iechyd a Ffitrwydd yma i’ch helpu gyda’ch holl anghenion ffitrwydd. Mae’r adran yn cynnwys 4 rhan:

^ yn ôl i'r brig


Caffeteria

Mae gan Gaffeteria Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc fwydlen sy’n cynnig dewisiadau bwyta’n iach (ond os byddai’n well gennych, fe gewch fyrgar a sglodion!). Bydd staff y caffeteria’n falch o’ch gweld unrhyw amser, boed am ddiod oer yn dilyn ymarfer egnïol neu am bryd llawn.

^ yn ôl i'r brig

 

Ymdrin ag Anableddau

Mae Plas Madoc yn ceisio darparu ar gyfer pobl ag anableddau, gan gynnwys parcio penodol i bobl anabl a mynediad i gadeiriau olwyn. Mae gan y pwll fan newid wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer pobl ag anableddau, sy’n cynnwys toiled, cawod a chyfleusterau newid. Mae’r man hwn yn arwain yn uniongyrchol at ochr y pwll a darperir ramp a chanllaw.

Gwybodaeth Bellach:

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc
Ffordd Llangollen
Acrefair
Wrecsam
LL14 3HL

Ffôn: 01978 821600
Facs: 01978 824633
Ebost: plasmadoc.leisurecentre@wrexham.gov.uk

Gweler Map Lleoliad

 
English
 

Cyswllt i

Am Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc
Ffitrwydd Pur
Pethau Plant
Tâl Mynediad
Oriau Agor
Oriel Luniau
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint