|
Mae'r adeilad Gradd I trawiadol hwn yn cynnwys cofadeiladau angladdol pwysig i Deulu Myddleton, cyn-berchnogion Castell Y Waun, a Theulu Trefor, yr hen brif dirfeddianwyr lleol.
Adeiladwyd rhan ohoni ar sylfeini Normanaidd o'r 11eg ganrif gyda'r twr a'r ale ogleddol wedi'u hadeiladu yn hwyrach, oddeutu 1475. Mae'r cynllun yn un anarferol gydag ale ddwbl, heb gangell amlwg a dim on cysegr bychan. Mae cofebion cerfiedig, i'r teulu Myddelton yn bennaf, yn cael y lle blaenllaw mewn sawl man y tu mewn i'r eglwys, yn enwedig yr ale ddeheuol.
Mae bylau'r to yn dod o'r to 15fed ganrif gwreiddiol. Mae'r cerfiadau pren diddorol hyn, a ailbeintiwyd yn yr 1970au, yn cynrychioli math o gelfyddyd ganoloesol gyffredin, ac nid yn unig yn adlewyrchu creaduriaid o'r Hen Destament, on bwystiflod chwedlonol hefyd. Credir bod bwlyn y castell yn cynrychioli Castell y Waun.

Mae cysylltiadau hanesyddol enwog yn cynnwys Frances Maude, awdur yr emyn "Thine Forever", a gladdwyd yn y fynwent. Dyma'r lle cyntaf i R S Thomas wasanaethu fel curad, rhwng 1936 a 1941.
Cyfleusterau
- Parcio
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- System dolen i'r rheini sy'n drwm eu clyw
- Canolfan Wybodaeth
- Arweinlyfr i'r Eglwys
- Siopau lleol
Lleoedd i Ymweld  Nhw
-
Llangollen a Chamlas Llangollen
-
Traphontydd dwr yn Y Waun a Froncysyllte
-
Castell Y Waun (Yr Ymddiiedolaeth Genedlaethol)
-
Dyffryn Ceiriog
-
Mynyddoedd y Berwyn
Cyswllt
Ffôn: 01978 292015
Amseroedd Agor
Tymor yr Ysgol
Llun - Gwe
9.00am - 3.00pm
Gwyliau'r Pasg a'r Haf
Llun - Gwe
9.00am - 4.00pm
Bob Dydd Sadwrn
10.00am - 12.00pm
Gwybodaeth am Fynediad
Eglwys Y Santes Fair
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
PDF 169Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|