|
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1860 diolch i haelioni’r teulu Boates o Rose Hill ac ymgysegrwyd hi i Sant Hyllar.

Roedd eglwys flaenorol ar y safle hwn yn 1692 wedi ei hymgysegru i Sant Erbin. Roedd yn adeilad â ffrâm bren a tho gwellt, ac ail-adeiladwyd ef yn 1748 oherwydd y gofyn cyson am drwsiadau.
Rhoddodd sawl aelod o’r teulu Boates hael iawn yr holl ffenestri gwydr lliw prydferth er cof aelodau o’r teulu.
Mae gan y reredos 3 rhan a gefnogir gan golofnau marmor wedi ei orchuddio gan batrwm gwinydd yn dangos y Swper Olaf.
Ymysg pennau naddedig y pileri, mae gan yr un fwyaf gorllewinol ben dynes yn edrych allan o’r blodau. Ar ben pob arch tywodfaen sy’n rhannu’r eiliau o gorff yr eglwys mae naddiadau eraill o bennau pobl.

Mae’r pulpud amlochrog wedi ei wneud o garreg Caen ynghyd â phaneli naddedig bob yn ail a band corbel. Mae’r canhwyllwr prydferth yn dyddio o 1860.
Mae sawl agwedd ddiddorol arall o’r eglwys brydferth hon ar lannau tawel yr afon Dyfrdwy y mae’n werth i chi fynd i’w gweld.
Cyfleusterau
-
Ar lannau’r afon Dyfrdwy ym mhentref bach Erbistock.
-
Mae’r Boat Inn hanesyddol ger yr eglwys.
-
Gallwch barcio ym maes parcio’r Boat ac mae prydau bwyd a lluniaeth ar gael trwy
gydol y flwyddyn.
-
Digon o lwybrau troed cyhoeddus yn yr ardal.
-
Teithiau cerdded ar hyd lannau’r afon Dyfrdwy gan ddechrau o faes parcio’r Boat
Inn a’r Cross Foxes Inn yn Owrtyn
Mannau I Ymweld  Nhw
Cyswllt
Ffôn: 01978 292015
Amseroedd Agor
Bob Dydd: O war hyd y cyfnos
Gwybodaeth am Fynediad
Eglwys Sant Hyllar, Erbistock
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Taflen Eglwys Sant Hyllar, Erbistock - fersiwn PDF 52Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|