|
Ystyrir San Silyn fel eglwys blwyf ganoloesol orau Cymru. Mae ganddi hanes cyfoethog a llu o drysorau a mwynderau ar gyfer yr ymwelydd, ac eto mae'n parhau'n eglwys brysur, boblogaidd lle mae'r gynulleidfa'n ymroddedig i addoli ac i gydnabod presenoldeb Duw yn ein bywydau bob dydd.

Mae'r Twr Mawr yn un o "Saith Ryfeddod Cymru" a'r tu mewn gwelir nenfwd wedi'i addurno â 16 angel lliwgar yn seinio offerynnau a chanu.
Mae celf a chrefydd yn ymdoddi i'w gilydd mewn darlun wal hynafol o Ddydd y Farn, a gollwyd am ganrifoedd. Mae un o ddarllenfeydd eryr efydd hynaf Prydain yn y fan hon, ynghyd â gwydr lliw cain, gan gynnwys ffenestr a briodolir i Burne-Jones, nifer o gorbleau a cherfluniau to canoloesol difyr, a llawer o nodweddion diddorol eraill.
Bydd ymwelwyr yn gweld tystiolaeth o'r cysylltiadau hanesyddol niferus â'r Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig, a chyswllt traws-Atlantig rhyfedd yw bod bedd Elhiu Yale, sefydlydd Prifysgol Iâl, y tu allan i'r drws gorllewinol.
Cyfleusterau
- System dolen i'r rheini sy'n drwm eu clyw
- Wedi'i gwresogi a'i goleuo bob amser
- Byrddau esbonio dwyieithog
- Siop yn gwerthu arweinlyfrau, cardiau, anrhegion a chofroddion
- Bysiau teithiau trefnedig a dringo'r twr yn bosibl drwy apwyntiad o flaen llaw
- Toiledau Cyhoeddus agosaf, Rhodfa San Silyn
- 10 munud o'r orsaf fysiau, 15 munud o'r gorsafoedd trenau
- Maes parcio â pharcio anabl
Lleoedd i Ymweld  Nhw
-
Canolfan Groeso Wrecsam
-
Amgueddfa
-
Byd Dwr
Cyswllt
Ffôn: 01978 292015
Ebost: wrexhamparish@aol.com
Amseroedd Agor
Bob Dydd
11.00am - 3.00pm
Maes Parcio Talu ac Arddangos Rhodfa San Silyn
24 awr talu rhwng 8.00am - 5.00pm
Toiledau Cyhoeddus
Ar Agor 8.30am - 5.30pm Llun - Sad
Gwybodaeth am Fynediad
Eglwys Blwyf San Silyn
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
PDF 147Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|