|
Sefydlwyd yr eglwys yn 1841 ar ôl ffurfio Plwyf Yr Orsedd o Blwyf Gresffordd, ond fe'i disodlwyd yn 1892 gan yr adeilad presennol. Ceir dwy farn am darddiad Rossett, yr enw Saesneg ar y pentref. Mae rhai'n credu iddo ddeillio o "Yr Orsedd", sy'n golygu bryncyn, ac eraill o'r farn ei fod yn deillio o "Y Rhosydd", sy'n golygu cors.

Cynlluniwyd Eglwys Yr Orsedd gan y penseiri o Gaer, Douglas a Fordham, a fu'n gyfrifol hefyd am gynllunio eglwysi cyfagos Dodleston, Pulford ac Eccleston. Mae ganddi ganiad o wyth o diwbglychau.
Mae'r gwydr lliw yn cynnwys sawl enghraifft dda o'r cyfnod. Priodolir dwy ffenestr i'r artist Kemp ac un i Burne Jones.
Mae'r reredos yn cynnwys pum panel derw sy'n darlunio Crist a chwe angel, ac mae wedi'i wneud o glustiau môr ac alabastr lliw. Mae'r pulpud derw cerfiedig chweochrog wedi goroesi o'r eglwys wreiddiol, ac felly hefyd y fedyddfaen ar dir yr eglwys.
Anogir ymwelwyr i archwilio'r Fynwent Fyw, sy'n cynnwys sawl adran gadwraeth. Ar un adeg, roedd tw'r elor yn gartref i hen gert yr elor a gludai eirch drwy'r pentref ac fe'i harddangosir nawr yng Nghanolfan Dreftadaeth Y Bers, ger Wrecsam.
Cyfleusterau
- Maes parcio mawr ger Ffordd yr Orsaf
- Toiledau ar gael yn y tafarndai lleol
Lleoedd i Ymweld  Nhw
Mannau o Ddiddordeb Lleol
- Melin Yr Orsedd (Tua 1661) Peintiwyd gan JMW Turner (nid yw ar agor i'r cyhoedd)
Cyswllt
Ffôn: 01978 292015
Amseroedd Agor
Dydd Sadwrn
1.00pm - 5.00pm
Dydd Sul
1.00pm - 5.00pm neu drwy apwyntiad
Gwybodaeth am Fynediad
Eglwys Y Drindod
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
PDF 159Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|