Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a'r cyffiniau

Mae'r llyfryn am deithiau cerdded iach ym mharciau gwledig Wrecsam a'r cyffiniau'n cynnwys 7 o deithiau cerdded sy'n dechrau o'r Parciau Gwledig a reolir gan Wasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Wrecsam.

Mae'r teithiau'n weddol rwydd – nid yw'r un ohonynt yn fwy na 2-3 milltir o hyd, ac nid ydynt yn para mwy na 2 awr.

Croesawir cwn ar y teithiau hyn, cyn belled â'u bod yn cael eu cadw dan reolaeth.  Rydym wedi ceisio cynnwys unrhyw fannau o ddiddordeb lleol ym mhob un o'r teithiau.

Os ydych yn dioddef anawsterau symud, ffoniwch 01978 763140 i gael cyngor am addasrwydd y llwybrau.

Mae pob un o'r 7 o barciau gwledig yn Wrecsam yn unigryw gyda rhywbeth at ddant pawb, o olegfeydd tawel o goetiroedd ac afonydd i fannau chwarae ac anifeiliaid fferm. Mae gennym raglen o weithgareddau cyffrous ym mhob un o'r parciau, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.  Cewch fwy o fanylion yn ein taflen ddigwyddiadau.  Rydym hefyd yn darparu rhaglen addysg amgylcheddol eang i ysgolion.

Taith Gerdded Dywysedig yn Ystod Yr Wythnos

Ymunwch â Cheidwad Tŷ Mawr ar daith gerdded drwy’r gweirgloddiau ar hyd yr Afon Dyfrdwy.  Mae’r daith yn mynd ar hyd Basn Trefor lle gellir gweld y ddyfrbont, cyn dychwelyd at Barc Gwledig Tŷ Mawr.

Mae’r daith yn cynnwys rhai llethrau serth, stepiau, camfeydd, a thir anwastad.

Cyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Tŷ Mawr Dydd Mercher 18fed Mehefin 10.30am.

Bydd y daith yn cymryd oddeutu 1½ awr ac mae’n 3 milltir o hyd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Pharc Gwledig Tŷ Mawr ar 01978 822 780.

 

Taith Gerdded o Melin y Nant

Cored y Coed Mawr ar ôl glaw trwm mis Awst

Cored y Coed Mawr ar ôl glaw trwm mis Awst
Llun gan Jan Bridson

Cored y Coed Mawr

Cored y Coed Mawr
Llun gan Jan Bridson

Cored y Caeau (Grisiau Rwsiaidd) ar ôl glaw trwm

Cored y Caeau (Grisiau Rwsiaidd) ar ôl glaw trwm
Llun gan Jan Bridson

Afon Clywedog ar ôl glaw trwm, wedi’i staenio gan fawn

Afon Clywedog ar ôl glaw trwm, wedi’i staenio gan fawn
Llun gan Jan Bridson

Cored y Coed Mawr 2

Cored y Coed Mawr 2
Llun gan Elizabeth Jones

Llwybr yng nghoed Plas Power

Llwybr yng nghoed Plas Power
Llun gan Elizabeth Jones

Anfonwch eich lluniau atom!

Ebostiwch eich hoff luniau digidol a dynnwyd ar y teithiau cerdded hyn - defnyddir detholiad o’r goreuon ar y dudalen hon. Cydnabyddir eich enw wrth eich llun. Ystyrir pobl, adeiladau, tirwedd, bywyd gwyllt - ystyrir pob math o ddelweddau, ar yr amod iddynt gael eu tynnu ar un o’r teithiau cerdded. Gweler ymwrthodiad. Anfonwch i rightsofway@wrexham.gov.uk.

Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a’r cyffiniau

Mae'r taflen cerdded iachus ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a'r Cyffiniau - Fersiwn PDF 1.1Mb 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ffoniwch 01978 762122 neu e-bostiwch
countryparks@wrexham.gov.uk

Cysylltiadau

Walking the Way to Health (cyswllt allanol)

yn ôl i'r brig