Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cronfa Neuaddau Pentref

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwahodd neuaddau pentref yn y sir i wneud cais am grant a allai roi hyd at £2,500 iddynt.

Yn 2008/09, mae gan y gronfa £17,500 i'w ddosbarthu.  Y swm isaf a ddyfernir yw £250 a'r swm mwyaf yw £2,500.  Rhoddir yr arian i fudiadau gwirfoddol ac fe'i defnyddir i dalu am offer, gwaith trwsio adeiladau ac eitemau a fydd o fudd parhaus (e.e. mesurau arbed ynni).  Ni ellir dyfarnu arian i dalu costau staffio nac apeliadau/nawdd cyffredinol.

Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan bwyllgorau / ymddiriedolwyr rheoli o gyfansoddiad priodol sy'n gweinyddu neuaddau pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae neuaddau tref neu neuaddau pentref yn gymwys i ymgeisio.  Caiff neuaddau eglwys a mannau cyfarfod eraill eu hystyried, cyn belled a bo dim neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol eraill yn y gymuned honno.  Dylid cwblhau ffurflen gais briodol ym mhob achos.

Dylid cyflwyno ceisiadau presennol erbyn 18 Gorffennaf 2008.

Dim ond un dyfarniad a roddir i bob mudiad.

Am ffurflen gais, ffoniwch 01978 297442 yn ystod oriau swyddfa neu gallwch ei lawrlwytho o'n gwefan.

Gwybodaeth gyffredinol

Pryd caiff grantiau eu dyfarnu?

Mae’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am grantiau bob blwyddyn. Dylid cyflwyno ceisiadau presennol erbyn 18 Gorffennaf 2008. Caiff ymgeiswyr eu hysbysu o ganlyniad y cais ym mis Awst a disgwylir iddynt fod wedi gwario’r grant erbyn 31 Ionawr 2009.

Pa wariant sy’n gymwys?

Cyfeiriwch at y meini prawf amgaeëdig.

Prif bwyntiau:

  1. dyfernir y grantiau i fudiadau gwirfoddol, nid unigolion;
  2. gellir dyfarnu grantiau ar gyfer offer, trwsio adeiladau ac eitemau a fydd o fudd parhaus, megis mesurau i arbed ynni;
  3. ni ellir dyfarnu grantiau i dalu costau staffio nac apeliadau / nawdd cyffredinol.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan bwyllgorau rheoli priodol/ymddiriedolwyr sy’n gweinyddu neuaddau pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae neuaddau tref neu bentref a weithredir gan gynghorau cymuned yn gymwys i wneud cais. Bydd neuaddau eglwys a mannau cyfarfod eraill yn cael eu hystyried ar yr amod nad oes unrhyw neuadd bentref neu ganolfan gymunedol arall yn y gymuned honno. Ym mhob achos, dylid cwblhau’r ffurflen gais briodol.

Faint?

Yn ystod 2008/09, mae gan y gronfa £17,500 i’w ddosbarthu. Y dyfarniad lleiaf yw £250 a’r mwyaf yw £2,500. Dim ond un dyfarniad a wneir i bob mudiad.

Ffurflen Gais

Mae'r ffurflen gais ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gais - fformat Word 79Kb

Ffurflen Gais - fformat PDF 165Kb

Ffurflen Gais - fformat Testun Plaen 691Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint