Digwyddiadau Gwasanaeth Cefn Gwlad, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Pharciau Wrecsam

Mae Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Wrecsam yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae'r digwyddiadau wedi'u hanelu at oedolion a phlant a chynhelir digwyddiadau ychwanegol dros wyliau'r ysgol.

Am wybodaeth fanwl am y digwyddiadau, lawrlwythwch gopi o'n rhaglen ddigwyddiadau yma.

Mae'r daflen ar gael hefyd yn ein Canolfannau Ymwelwyr ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Sylwer bod raid i blant fod yng nghwmni oedolyn ym mhob un o'r digwyddiadau.

Cefn Gwlad, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Pharciau Wrecsam Digwyddiadau 2010

Mae Rhaglen Ddigwyddiadau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cefn Gwlad, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Pharciau Wrecsam Digwyddiadau 2010 - Fersiwn PDF 6.1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Mae mwyafrif ein digwyddiadau yn addas ar gyfer pawb, fodd bynnag os oes gennych anghenion arbennig, neu anawsterau symudedd, byddai’n ddoeth gwirio bod y digwyddiad yn addas drwy ffonio rhif cyswllt y digwyddiad o flaen llaw.

Rydym yn darparu ystod o deithiau cerdded, a gobeithio y bydd hyn at ddant pawb.  Sylwer y bydd ceidwad neu swyddog hawliau tramwy bob amser yn y man cyfarfod ar amser dechrau’r daith i roi gwybod i chi os y gohiriwyd y daith oherwydd tywydd gwael.  Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus / cryfion a dod â dillad cynnes gwrth-ddwr  a phecyn bwyd a diod os yw’r daith yn un hir.

Croesewir gwirfoddolwyr bob amser ac os oes gennych ambell awr i’w sbario, beth am i chi alw heibio unrhyw un o’r parciau gwledig.

yn ôl i'r brig