Clwb Nofio’r Waun a’r Cylch
Clwb bach ond cyfeillgar a ffyniannus, ar agor i nofwyr newydd ar gyfer profion ar nosweithiau Mercher 8-9pm. Gellir cytuno ar sesiynau eraill trwy drafodaeth ar ymyl y pwll gyda’r prif hyfforddwr. Rydym fel clwb yn croesawu gymaint o aelodau newydd ag sy’n bosibl.
Ar hyn o bryd mae sesiynau hyfforddi ar:
nos Fawrth7-9pm
nos Fercher 8-9:30pm
nos Iau 7:30-9pm
dydd Sul 3-5:45pm
Mae’r clwb hefyd yn cynnal rhaglen Draig Dwr i annog plant iau i ddatblygu stamina wrth baratoi ar gyfer mynd i’r prif glwb nofio. Bydd yr athrawon nofio sy’n goruchwylio’r rhaglen hon ar nosweithiau Mawrth 7-8pm yn asesu nofwyr unigol yn eu gallu, er ein bod fel arfer yn edrych ar blant sydd wedi cael gwersi nofio ac sydd bellach ar Lefel 8 o fewn y fframwaith addysgu, ond gan fod y lefelau hyn wedi cael eu diwygio erbyn hyn i gamau o fewn y gwersi nofio diweddaraf ac felly Cam 7.
Neilltuir rhai neu ran o sesiynau nofio’r prif glwb i nofwyr penodol yn dibynnu ar alluoedd. Rydym bob amser yn edrych tuag at gynyddu ein sesiynau hyfforddi felly efallai y newidir yr amseroedd a restrir uchod.
Ein prif hyfforddwr yw Steve Parker, sydd â blynyddoedd o brofiad fel nofiwr a hyfforddwr yn Wellington. Mae gennym hefyd hyfforddwyr ‘wrth gefn’ fyddai efallai’n cynorthwyo neu’n cymryd lle Steve fel y bo’r angen.
Rydym yn ymgeisio mewn galâu nofio mewn cynghrair lleol gyda phwyslais arbennig ar ymdrechu fel tîm. Rydym hefyd yn annog pob nofiwr i ddilyn llwybr cystadleuol unigol ar gyfer eu datblygiad eu hunain. Fel y bydd nofwyr yn gwella rydym yn eu hannog yn y pen draw i nofio ar Lefel Genedlaethol.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynghylch y clwb mae croeso i chi gysylltu â ni. Bydd ein hysgrifenyddes - Maggie Durrant yn falch i dderbyn galwadau ffôn ar 01691 774169, neu efallai y byddwch am gysylltu â’n gwefan - www.chirkdragons.co.uk
|