|

Canolfan Croeso
Canolfan Croeso, Stryt y Lampint, Wrecsam LL11 1WN.
Ffôn: 01978 292015
Ffacs: 01978 292467
E-bost: tic@wrexham.gov.uk
Ar agor Llun-Sad. 10.00a.m. - 5.00 p.m. yn yr haf/ 10.00a.m. - 4.00 p.m.
gaeaf.
Mae Canolfan Croeso Wrecsam yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau
ar gyfer ymwelwyr. Yn y Ganolfan, gellir archebu ystod lawn o letyau lleol
a chenedlaethol. Mae gan y Ganolfan wybodaeth gyfredol ynghylch digwyddiadau
lleol, atyniadau a chanolfannau gweithgareddau. Mae manylion Cludiant
Cyhoeddus, ynghyd â gwasanaeth cynllunio taith ar gael. Mae'r Ganolfan
hefyd yn gweithredu fel swyddfa docynnau ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau
mawr a chyngherddau lleol. Gwerthir swfenîrs, mapiau a theithlyfrau hefyd.
Er bod y Ganolfan yn canolbwyntio yn bennaf ar ardal Wrecsam a Gogledd
Cymru, mae gan y Ganolfan lyfrgell ymchwil o ddefnyddiau a thaflenni twristiaeth/hamdden
o rannau eraill o Brydain.
Cysylltiadau
i Gwybodaeth Taith Ar-lein | Cysylltiadau
i Mapiau
^ yn ôl i'r brig
|