Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Taith Wrecsam

 

Eglwys Blwyf San Silyn

Swyddfa: Ty'r Coleg, 1Rhes y Deml, Wrecsam, LL13 8LY

Ffôn: 01978 355808 (9.00 a.m. - 11.00 a.m. dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffacs: 01978 313375

Hon yw un o'r esiamplau gorau o bensaernïaeth eglwysig i'w chanfod yng Nghymru.  Adeiladwyd prif ran yr eglwys ar ddiwedd y 15fed a dechrau'r 16eg ganrif, gan bontio blynyddoedd olaf y canoloesoedd a degawdau cyntaf yr oes fodern.

Mae'r adeilad hardd hwn yn arwydd gweledol iawn o ffydd y Cristionogion dros nifer o ganrifoedd, ac fe'i cysegrwyd i San Silyn, "nawdd sant y cripl, y cardotwyr a'r gofaint".  Trwy'r eglwys, ceir nifer o esiamplau o waith maen, cerfio coed, cofebau ac arteffactau eglwysig manwl, yn ogystal â rhai ffenestri gwydr lliw arwyddocaol.

Adeiladwyd y twr, mewn modd perpendiciwlar ac yn adnabyddus fel un o "Saith Rhyfeddod Cymru" (ac fe ddywedir bod twr Ty'r Cyffredin wedi cael ei fodelu arno), ac mae'n ymffrostio mewn sain deg cloch a fwriwyd ym 1726-7 gan Abraham Rudhall o Gaerloyw, un o fwrwyr clychau gorau ei ddydd.  Heddiw, mae Wrecsam yn un o nifer fechan o eglwysi sydd â chaniad llawn o glychau Rudhall.

Yn ogystal â gwasanaethau arferol y Sul a chanol wythnos, ceir nifer o briodasau, bedyddiadau a gwasanaethau ar gyfer nifer o sefydliadau milwrol, yn enwedig y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sydd â'u capel eu hunain o fewn yr eglwys.  Mae'r eglwys hefyd yn fan poblogaidd ar gyfer cyngherddau.

Bydd yr eglwys yn derbyn cannoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae nifer yn dod o'r UDA i weld bedd Elihu Yale yn y fynwent, cymwynaswr Prifysgol Yale.  Fel arfer, mae'r adeilad ar agor rhwng  10.00 a.m. hyd 4.00 p.m. bob dydd yn ystod yr wythnos rhwng y Pasg a Diolchgarwch a gellir trefnu ymwelidau ar amserau eraill trwy apwyntiad.  

Cysylltiadau i On-line Tour Information | Cysylltiadau i Mapiau

^ yn ôl i'r brig

 
English
 

Canol Tref Wrecsam

Dychwelyd i Taith Wrecsam Mynegai
Eglwys Blwyf San Silyn
Stryt yr Hôb
Stryt y Rhaglaw
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Maes Pêl-Droed Cae Ras Wrecsam
Llwyn Isaf
Llyfrgell Wrecsam
Canolfan Gelf Wrecsam
Byd Dwr
Canolfan Croeso

Gororau Wrecsam

Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Bangor Iscoed
Cae Ras Bangor Iscoed
Plas Erddig
Rhiwabon
Dyfrbont Froncysyllte
Parc Gwledig Ty Mawr
Canolfan Hamdden Plas Madoc
Y Waun
Canolfan Hamdden Y Waun
Clwydi Castell Y Waun
Castell Y Waun
Traffont a Dyfrbont Y Waun
Dyffryn Ceiriog
Pandy
Llanarmon Dyffryn Ceiriog
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint