|

Rhiwabon
Saif Rhiwabon i'r de o Wrecsam ger yr A483(T), ac mae'n derbyn gwasanaeth
rheilffordd Caer i'r Amwythig. Gorsaf Rhiwabon yw'r orsaf drenau agosaf
i Langollen.
Mae Rhiwabon yn gymysgedd o'r hen a'r newydd. Prif dirnodau canol y
pentref yw gwesty Georgaidd ac Eglwys y Santes Fair. Cofnodwyd yr Eglwys,
sy'n restredig fel adeilad Gradd I, yn gysegredig i Sant Collen ym 1253.
Mae gan yr Eglwys dwr o'r 14eg ganrif. Yn hanesyddol, Rhiwabon
oedd cartref y teulu Cymreig pwerus Williams Wynn. Hefyd rhoddodd ei enw
i frics Rhiwabon - y fricsen loyw, gadarn goch, sy'n amlwg yn adeiladau
ardal Wrecsam a thu hwnt.
Cysylltiadau
i Gwybodaeth Taith Ar-lein | Cysylltiadau
i Mapiau
|