|

Dyfrbont Froncysyllte
Ystyrir Traphont Ddwr Pontcysyllte yn gyffredinol fel un o brif lwyddiannau
peirianneg sifil Thomas Telford. Ar y pryd, roedd ei adeiladwaith yn chwyldroadol,
nid yn unig oherwydd ei faint dramatig a'i leoliad, ond cynlluniodd Telfod,
gan wrthod bob rhagesiamplau gafn haearn bwrw 3.25 metrau
o led, 307 metrau o hyd a osodwyd ar hyd 18 piler garreg i gludo'r
ddyfrffordd 37 metrau uwchlaw yr Afon Ddyfrdwy. Gosodwyd y garreg
gyntaf yng Ngorffennaf 1795 ac fe gymerwyd deng mlynedd i'w hadeiladau
a chyfanswm y gost oedd £47,018.
Traphont Ddwr Pontcysllte yw un o brif atyniadau twristiaid o fewn Bwrdeistref
Sirol Wrecsam. Gellir cael mynediad o'r ddau ben - o Drefor (arwydd ar
yr A539) neu o Froncysyllte (arwydd ar yr A5(T)). Mae maes parcio ar gael
ar y ddau ben y Draphont Ddwr. Mae cerdded ar draws y Draphont yn brofiad
gwych, gan ei bod 37 metrau uwchlaw yr Afon Ddyfrdwy ac fe allwch
weld golygfeydd panoramig o'r ardal gyfan. Fodd bynnag, nid yw'n addas
ar gyfer y rhai sydd ofn uchder! Adlewyrchir pwysigrwydd rhyngwladol
y Draphont Ddwr oherwydd iddi gael ei chynnwys ar restr ymgeisiadau o
enwebiadau i'r dyfodol ar gyfer dynodiad Safle Treftadaeth Byd UNESCO.
Mae'n bosibl hurio cwch camlas i'r rhai anturus ym Marina'r Waun (Ffôn:
01691 774558) neu ym masn Trefor (Ffôn: Anglo Welsh ar 01978 821749 neu
Ribbon Plate ar 01978 823215) a chroesi'r Draphont Ddwr ar gwch, ar y
llaw arall, mae tripiau cwch camlas ar gael i'r rhai sydd am eistedd yn
ôl a mwynhau'r profiad.
Cysylltiadau
i Gwybodaeth Taith Ar-lein | Cysylltiadau
i Mapiau
|