Parc Gwledig Ty Mawr

Mae Ty Mawr yn cynnig holl hwyl y fferm yng ngolygfeydd anhygoel dyffryn Dyfrdwy. Gellwch gwrdd â llawer o anifeiliaid yn Nhy Mawr, megis mulod, moch a geifr. Gellwch hyd yn oed fwydo ein hieir buarth a'n hwyaid neu edmygu Lawrence y lama, sy'n amddiffyn ein defaid rhag llwynogod!

Nid ydym yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr ar y tir yn Nhy Mawr. Dyma pam bo gennym rywogaethau lu o blanhigion gwyllt ac anifeiliaid a pham bo'r dolydd gwair traddodiadol yn llawn lliw yn yr haf. Beth am grwydro ar hyd yr afon, eistedd ac ymlacio i weld a ellwch weld eog yn neidio?!

Lleolir Ty Mawr mewn safle darluniaidd islaw traphont ddramatig Cefn Mawr ac ar lannau afon Dyfrdwy, ac mae'n darparu rhai o olygfeydd gorau'r ardal.

Teithiau Cerdded Iach

Beth am fynd am dro ar hyd lan yr afon i draphont ddwr Pontcysyllte, ar hyd Llwybr Treftadaeth Cefn neu ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa?

Neu gallech ymuno â’n teithiau cerdded a arweinir gan y Ceidwad er mwyn cymdeithasu, mwynhau golygfeydd hardd a chadw’n heini ar yr un pryd.

Am ragor o wybodaeth a dyddiad y daith gerdded nesaf, ewch i’r ddolen teithiau cerdded iachus.

Digwyddiadau

Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn darparu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer oedolion a phlant.

Grŵp Cyfeillion:

Hoffech chi ddweud eich dweud am ddatblygiadau Tŷ Mawr yn y dyfodol?  Os felly, ymunwch â CHYFEILLION PARC GWLEDIG TŶ MAWR.

Dechreuwyd  ‘cyfeillion y grŵp’ yn 2005 ac mae wedi bod yn llwyddiannus yn codi arian i wario ar y parc ar gyfer prosiectau megis y Tŷ Moch Cwta newydd, i brynu ein Kune Kune.

Os hoffech helpu gyda:

  • Rhedeg stondinau
  • gwneud cacennau
  • Gwaith cadwraeth ymarferol
  • helpu gyda digwyddiadau
  • Codi arian
  • Helpu gyda’r anifeiliaid
  • Agor y siop de

Ffoniwch Tŷ Mawr am ragor o wybodaeth.

Gwirfoddolwyr

Mae gan Barc Gwledig Tŷ Mawr wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn. Maent yn cyfrannu llawer iawn o amser ac ymdrech i’r parc ac fe’u gwerthfawrogir yn fawr. Mae’r grwpiau yn gweithio ar nifer o dasgau gwahanol ac maent wedi cynnwys;

  • gweithio ar lwybrau
  • peintio
  • clirio llystyfiant
  • gwaith gyda’r anifeiliaid
  • cadwraeth ymarferol

Ceir prynhawniau i wirfoddolwyr bob dydd Mercher ac unwaith y mis ar ddydd Sul. Am ragor o wybodaeth ac / neu i ddod yn wirfoddolwr ewch i’r ganolfan ymwelwyr neu ffoniwch 01978 822780.

Ceidwaid Iau

Beth yw Ceidwad Iau...? a Pham ymuno?

Os ydych chi’n 8 - 16 oed ac yn mwynhau gweithio gydag anifeiliaid, bod yn yr awyr iach, rhoi cynnig ar amrywiol gelf a chrefft, mynd ar deithiau cerdded neu ymweld â pharciau gwledig eraill yn ardal Wrecsam a llawer llawer mwy, yna Ceidwaid Iau yw’r grŵp i chi. Unwaith y byddwch wedi cael eich derbyn fel ceidwad iau, byddwch yn gweithio tuag at gyfres o 4 o wobrau gan ddechrau gyda ‘Helyg’ hyd at wobr ‘Sequoia’.

Yn ogystal â hyn, bydd pob awr y byddwch yn ei threulio fel ceidwad iau yn cyfrif fel credyd ‘Prifysgol y Plant’ Wrecsam. Mae hwn yn brosiect i Wrecsam gyfan sy’n rhoi credydau i blant am yr amser y byddant yn ei dreulio yn gwneud gweithgareddau y tu allan i oriau dysgu arferol. Gall plant weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur a byddant yn derbyn tystysgrif PP a chânt eu gwahodd i seremoni wobrwyo i ddathlu eu llwyddiannau.

Sut alla i ymuno â’r Ceidwaid Iau?

Wel Mae’n hawdd! Y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cael eich rhiant neu warchodwyr i lenwi ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho o’r ddolen isod neu fel arall gallwch gasglu ffurflen o ganolfan ymwelwyr Tŷ Mawr neu ffonio 01978 822780 a gellir anfon ffurflen atoch drwy’r post. Cynhelir sesiynau Ceidwaid Iau drwy gydol y flwyddyn felly bydd grwp addas i chi bob amser:

Sesiynau’r gaeaf

Sad 9am – 11am, 1.30pm – 3.30pm
Sul 9am – 11am

Sesiynau’r haf

Dyddiau’r wythnos 4pm – 5pm
Sad 9am – 11am, 1.30pm – 3.30pm
Sul 9am – 11am

Mae’r Ceidwaid Iau yn boblogaidd iawn ac fel rheol mae rhestr aros ar gyfer lleoedd, ond po gyntaf y byddwch yn cyflwyno’r ffurflen, po gyntaf y byddwch ar y rhestr. Pan fydd lleoedd ar gael byddwn yn gwybod i chi.

Oherwydd natur y gwaith mae’n rhaid i bob plentyn sy’n gwneud cais am y Ceidwaid Iau fod wedi derbyn brechiad cyfredol yn erbyn tetanws.

Noddi Anifail ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Lansiwyd y cynllun noddi yn 2006 ac fe’i sefydlwyd i roi dull i’r cyhoedd gefnogi anifeiliaid ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr. Mae’r noddwyr yn talu ffi flynyddol am eu dewis anifail/anifeiliaid ac am hyn byddant yn derbyn pecyn noddwyr sy’n cynnwys tystysgrif unigryw sy’n dangos yr anifail, enw’r noddwr a dyddiad ymuno â’r cynllun. Yn y pecyn hefyd ceir gwybodaeth am y parc a sut y byddwn yn ei gadw fel fferm organig, gwybodaeth am frid yr anifail a’i ffordd o fyw, bathodyn gyda’ch dewis anifail arno, taflen liwio, pensil ac wrth gwrs nodyn i’ch croesawu.

Gwahoddir noddwyr i ddiwrnod arbennig i noddwyr, lle gallant gyfarfod â’r anifail yng nghwmni un o’n ceidwaid, a chan ddibynnu ar ba anifail a noddwyd, gallant frwsio’r mulod, bwydo’r geifr neu ddod draw i roi anwes i’r gwningen a chael tynnu eu llun. Mae’r parc ar agor bob dydd o’r flwyddyn a gellir gweld yr anifeiliaid yn ystod y dydd, yn y siediau arbennig i anifeiliaid neu ar y caeau.

Os hoffech noddi un neu fwy o’n hanifeiliaid am 12 mis neu yr hoffech ragor o wybodaeth am y Cynllun Noddi Anifeiliaid ffoniwch ni ar 01978 822 780.

Gwobr y Faner Werdd

Dechreuodd gynllun y Faner Werdd yn 1996. I fod yn gymwys ar gyfer statws y faner werth mae’n rhaid i safleoedd fod yn agored i’r cyhoedd a meddu ar gynllun rheoli safle.

Defnyddir y 8 maen prawf canlynol i feirniadu:

  • Lle croesawgar
  • Iach, diogel a sicr
  • Yn lân ac wedi ei gynnal a’i gadw’n dda
  • Cynaliadwyedd
  • Cadwraeth a threftadaeth
  • Cyfraniad y Gymuned
  • Marchnata
  • Rheolaeth

Mae safleoedd buddugol yn derbyn baner a thystysgrif i’w harddangos a chânt eu cynnwys ar wefan y faner werdd. Mae’r wobr yn ddilys am flwyddyn.

Enillodd Tŷ Mawr y wobr gyntaf yn 2006 ac mae wedi cadw’r wobr bob blwyddyn ers hynny.

Sut i gyrraedd yno

Mae’r parc yn hawdd dod o hyd iddo. Mae wedi ei leoli bum milltir i’r de o Wrecsam ym mhentref Cefn Mawr.

Bws

O Wrecsam

Mae bws 2C Arriva yn mynd o Orsaf Fysiau Wrecsam bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac eithrio Gwyliau’r banc a bydd yn mynd heibio Gorsaf Drên Rhiwabon cyn cyrraedd ym mhentref Cefn Mawr.

O Groesoswallt

Mae bysiau 2 a 2A Arriva yn mynd o orsaf fysiau Croesoswallt bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac eithrio Gwyliau’r Banc ac yn mynd heibio’r Waun cyn cyrraedd ym mhentref Newbridge (0.3 milltir o Gefn Mawr).

Ar y trên

Y gorsafoedd trên agosaf yw Rhiwabon sy’n 2 filltir i ffwrdd a’r Waun sydd 4milltir i ffwrdd. Trenau Arriva Cymrusy’n cynnig gwasanaeth y ddau drên.

Yn y car

Mae Tŷ Mawr wedi ei arwyddo fel ‘Parc Gwledig’ ar arwyddion brown a gwyn. Dilynwch yr arwyddion hyn i’r parc oddi wrth gyffordd Llangollen/Rhiwabon o’r A483.

Oriau agor

Mae'r parc ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r Ganolfan Ymwelwyr ar agor:

Pasg i fis Medi - bob dydd rhwng 10.30am a 4.30pm
Mis Hydref i'r Pasg – ar benwythnosau'n unig.

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Llwybr cylchol gydag arwyneb gyda rhai llethrau sy’n hygyrch i bawb.
  • Partïon ysgol a phartïon pen-blwydd plant drwy apwyntiad.
  • Toiledau (gan gynnwys toiledau i’r anabl a chyfleusterau newid babanod)
  • Teithiau tywys/teithiau gydag apwyntiad
  • Addas ar gyfer teithiau bws
  • Mae lluniaeth ar gael yn y ganolfan ymwelwyr (diodydd, byrbrydau, hufen iâ). Mae brechdanau a phrydau poeth ar gael ym mhentref Cefn Mawr neu ym masn Trefor.
  • Trac BMX / Llwybr heini / Ardal chwarae

Cysylltwch

Parc Gwledig Ty Mawr
Ln Cae Gwilym
Cefn Mawr
Wrecsam
LL14 3PT

Ffôn: 01978 822780
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig