P’un a ydych am ddarganfod hanes a bywyd gwyllt lleol neu fynd am dro ysgogol drwy goed ysblennydd a chefn gwlad, mae’r hen felin yd hon yn lle ardderchog i gerddwyr neu deuluoedd ymweld ag o.
Mae canolfan ymwelwyr Melin y Nant yn swatio mewn coetir hynafol hardd ar lan afon Clywedog. Lleolir Melin y Nant ar Lwybr Clywedog, sy’n ymestyn am 6.5 milltir drwy gefn gwlad godidog o Byllau Plwm y Mwynglawdd , drwy Goed Nant a Choed Plas Power, lle gellir gweld Clawdd Offa, heibio i Ganolfan Treftadaeth y Bers a’r Gweithfeydd Haearn, stad drawiadol Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin yn Wrecsam.
I’r rheiny nad ydynt am fentro mor bell â hynny, ceir teithiau cerdded byr sy’n dechrau o’r ganolfan ymwelwyr a digonedd o weithgareddau i ddiddanu’r plant. Gallant gerdded drwy dwnnel anferth y twrch daear a dychmygu sut beth yw bod yn dwrch neu gallant ddefnyddio’r arddangosiad rhyngweithiol o drychfilod i chwarae a dysgu ar yr un pryd! Gallant weld y ffenestr ysgythrog newydd, y moch mawr pren yn yr hen dwlc mochyn a’r ‘Clwydi Cipolwg’ a ysbrydolwyd gan orffennol diwydiannol y dyffryn. Mae Gorseddau’r Adar yn y man picnic yn lle perffaith ar gyfer adrodd stôrïau a hefyd mae maes chwarae bach i blant a gardd i fyfyrio.
Os ydych yn hoffi gwylio bywyd gwyllt, beth am dreulio rhywfaint o amser yn y guddfan gwylio adar. Nid adar yn unig sy’n hoffi diddori ymwelwyr, ond gwiwerod a llygod coch hefyd!
Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer rasys hwyaid sy’n hawdd eu cynnal ac yn ffordd wych o godi arian ar gyfer eich elusen, ysgol neu dîm pêl-droed. Gellir llogi hwyaid, drwy drefniant ymlaen llaw, o’r ganolfan ymwelwyr a gallwch dreulio prynhawn yn cael hwyl yn yr afon ac yn codi arian yr un pryd!
Ebostiwch eich hoff luniau digidol a dynnwyd ym Mharc Gwledig Melin y Nant a’r coedlannau cyfagos - rhoddir y goreuon ar y dudalen hon. Nodir eich enw wrth y lluniau. Ystyrir pobl, golygfeydd a bywyd gwyllt - pob math o ddelweddau, ar yr amod iddynt gael eu tynnu ym Melin y Nant neu’r cyffiniau. Cofiwch nodi pa bryd a pha le y tynnwyd eich lluniau; hefyd croesewir unrhyw fanylion eraill. Gweler ymwrthodiad. Anfonwch at rightsofway@wrexham.gov.uk
Mae Pwyllgor Cyfeillion Melin y Nant yn cyfarfod bob mis i drafod y parc a’r ffordd y caiff ei reoli.
Mae Cyfeillion Melin y Nant yn gobeithio cynrychioli trigolion lleol ac ymwelwyr o ardaloedd pellach. Maent yn trefnu ystod o gyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol amgylcheddol a fydd yn addas i bobl waeth beth fo’u hoedran, diddordebau a’u gallu.
Bydd y grŵp yn rhannu gwybodaeth ac ymgynghori’n rheolaidd gyda’i aelodau ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau. Byddant yn cynorthwyo i ddatblygu’r cyfleusterau ym Melin y Nant, codi arian ar gyfer prosiectau datblygu a chyfleoedd i wirfoddoli.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymaelodi â Chyfeillion Melin y Nant gysylltu’n uniongyrchol â’r parc ar 01978 752772 neu ebostio brena.john@wrexham.gov.uk.
Lleolir Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant dair milltir i’r gorllewin o Wrecsam ger pentref Coedpoeth. Ewch i gyfeiriad Rhuthun o’r A483. Arwydd ‘Melin y Nant’ yw’r troad cyntaf ar y chwith ym mhentref Coedpoeth. Fel arall gallwch ddilyn arwyddion am Johnstown/Rhosllanerchrugog o’r A483 ac yna arwyddion ‘Clywedog/Y Bers’. Trowch i’r chwith yn y Bers am Felin y Nant. Cynghorir bysiau i ddod i mewn i’r parc o’r Bers.
I deithio ar fws o Orsaf Fysiau Wrecsam: G. Edwards 9 neu 10 neu Arriva 10 neu 11.
Mae’r parc ar agor drwy’r flwyddyn.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor:
Pasg i fis Medi bob dydd 10.30am - 4.30pm
Mis Hydref i’r Pasg, penwythnosau’n unig
Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant
Ffordd Rhos y Bers
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3BT
Ffôn: 01978 752772
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk
I weld fersiwn fwy, cliciwch ar y llun neu'r testun
Dau gudyll coch oedd y prif atyniadau ym Melin y Nant am bythefnos yn nechrau mis Gorffennaf 2008 |
|
Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.
Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau’r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.