Parc Gwledig a Phyllau Plwm Y Mwynglawdd

Dewch i ymweld â Pharc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd am gipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol Dyffryn Clywedog hardd.  Lleolir y Mwynglawdd ar flaen y dyffryn, ac mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer Llwybr Clywedog neu fel mynediad at gefn gwlad hardd Mynydd y Mwynglawdd.   Gallwch fwynhau picnic, mynd am dro ac ati ar hyd yr hen reilffordd ac archwiliwch Barc Gwledig Pyllau Plwm y Mwynglawdd.

Gall ymwelwyr â’r amgueddfa archwilio olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’r peiriandy, y peiriant weindio a’r boilerdai a adferwyd.  O ben y peiriandy, mae golygfeydd bendigedig o’r safle a chefn gwlad o’i amgylch.

Gan gwmpasu 53 erw o laswelltir, llecynnau coediog a safleoedd archeolegol, mae’r Mwynglawdd yn ymhyfrydu mewn amrywiaeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd di-ben-draw i ymgolli mewn heddwch a llonyddwch.

Mae mynydd dramatig y Mwynglawdd yn ffinio â’r parc ac yn ychwanegu hyd yn oed mwy o ddiddordeb ar gyfer cerddwyr brwd.

Mae ardal bicnic sydd â golygfeydd hyfryd o’r dyffryn yn gwneud Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn ddiwrnod allan heb ei ail.

Sut i gyrraedd yno

Lleolir Y Mwynglawdd ger pentrefi New Brighton a’r Mwynglawdd  a gellir cyrraedd yno o’r A483, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer "Clywedog" ar yr A483 a "Pyllau Plwm y Mwynglawdd" ar yr A525.

Oriau agor

Mae’r parc ar agor drwy’r flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth - Mwy am Byllau Plwm y Mwynglawdd a’r oriau agor.

Cyfleusterau

  • Maes Parcio
  • Mynediad i’r anabl
  • Grwpiau ysgol trwy drefnu ymlaen llaw
  • Toiledau
  • Toiledau i’r anabl
  • Sgyrsiau/teithiau cerdded tywysedig
  • Addas ar gyfer grwpiau ar fws

Manylion cyswllt

Parc Gwledig y Mwynglawdd
d/o Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Ffordd yr Wyddgrug
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4AG

Ffôn: 01978 763140
Ebost: countryside@wrexham.go.uk

Amgueddfa

Ffôn: 01978 261529
Ebost: mineraleadmines@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig