Lleolir Dyfroedd Alun, sef y parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam, Nyffryn godidog Alun. Bydd teithiau cerdded coetir, glaswelltir a glan yr afon yn eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas yn ddidrafferth. Mae Canolfan Ymwelwyr sydd â chaffi, siop, ystafell gynhadledd neu bwyllgor, ynghyd ag arddangosfeydd ar hanes a bywyd gwyllt y parc. Mae’r Gwasanaeth yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy’r flwyddyn, ar gyfer plant ac oedolion.
Mae llwybr beiciau a llwybr cerflunwaith yn ymestyn am 2 filltir ar draws y parc o’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae’n lwybr beicio diogel i deuluoedd ar lechweddau braf gan fwyaf ac eithrio dau lwybr serth i lawr i’r afon, a gellir gweld cerfluniau diddorol ar y daith. Mae hefyd yn lwybr wych i ddefnyddwyr cadair olwyn. Wedi mynd ar hyd darn byr o ffordd wledig, mae’r llwybr beiciau’n arwain at faes antur gwych, maes parcio arall a dechreubwynt yn Llai.
Mae gan y parc 6 llwybr cerdded o wahanol bellteroedd a graddfa. Mae arwyddion ar eu hyd ac maent yn hawdd i’w cerdded. Cafodd y teithiau eu mesur yn broffesiynol i weld sawl calori a ddefnyddir wrth eu cwblhau. Mae taflenni ar gael yn y ganolfan ymwelwyr ac i’w lawrlwytho, er mwyn eich cynorthwyo i ddewis taith addas. Os bydd gennych egni ar ôl, mae gan y parc Lwybr Heini a luniwyd yn arbennig ac sy’n cynnig amrywiaeth o wahanol offer ymarfer corff syml. Cynlluniwyd yr offer i wella eich cryfder, stamina, cydbwyso a chydsymud. Mae’r Llwybr Heini’n hwyl ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae’r offer cydbwyso a chydsymud yn arbennig o addas i’r ifanc tra bo’r barau cyflina’r meinciau ymarfer corff yn tylunio cyrff oedolion. Mae taflenni Llwybr Heini ar gael o’r ganolfan ymwelwyr.
Yn y parc mae Prosiect Pŵer Pedalau i’r ymennydd a’r galon. Ei fwriad yw gwneud beicio yn hygyrch i blant ac oedolion sydd ag amrywiaeth o anableddau. Mae beicio yn ymarfer corff trawiad isel sy’n ffordd ddelfrydol o wella a chynnal eich lefelau ffitrwydd. Mae Pŵer Pedlo’n defnyddio beiciau tair olwyn a adeiladwyd yn arbennig o amgylch cylchdaith sy’n filltir o hyd ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. I neilltuo taith cysylltwch â’ch cydlynydd Pŵer Pedlo yn Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint ar 01978 757524.
Lleolir Dyfroedd Alun 3 milltir i’r gogledd o Wrecsam rhwng Gwersyllt, Bradle a Llai. I gyrraedd y ganolfan ymwelwyr, ewch ar hyd yr A541, sef y ffordd o Wrecsam i’r Wyddgrug, a chadwch lygad ar agor am yr arwyddion brown a gwyn ger pentref Gwersyllt. I gyrraedd ochr Llai, ewch ar hyd y B5425 o Wrecsam i Llai a chadwch lygad ar agor am yr arwyddion brown a gwyn cyn i chi gyrraedd pentref Llai.
Mae’r parc ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor 10.30am - 4.30pm bob dydd.
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Ffordd yr Wyddgrug
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4AG
Ffôn: 01978 763140
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk