Eglwys Gadeiriol y Santes Fair
Rhwng y Diwygiad yn ystod amser y Tuduriaid a Deddf Rhyddfreintio'r Pabyddion 1829, dioddefodd y Pabyddion wahaniaethu amrywiol, ond cyson. Ar y dechrau, roedd Pabyddion Wrecsam yn cyfarfod ger Lôn y Saith Bont, nawr Stryt y Farchnad, i addoli.
Roedd Richard Thompson, meistr haearn a pherchennog glofa'n un o Babyddion Wrecsam. Fe adeiladodd Gapel Pabyddol cyntaf y dref yn 1828 ar Stryt y Brenin, dim ond ar ôl twyllo'r perchennog i werthu'r tir iddo, gan na fyddai wedi gwerthu i Babydd. Agorodd Thompson y capel i fyny grisiau, tra dwedodd bod yr adeilad yn gartref iddo.
Cyfarchwyd Deddf 1829 gyda therfysg yn Wrecsam. Yn 1857, cwblhaodd Richard Thompson adeiladu Eglwys Babyddol gyntaf Wrecsam, er cof am ei wraig. Cafodd gymorth gan Pugin i'w chynllunio. Ers ei hagor, yma fu eisteddle Esgob Wrecsam.
Gadewch diroedd yr Eglwys Gadeiriol a chroeswch Stryt y Rhaglaw wrth y groesfan. Cerddwch rownd y gornel i Ffordd Grosvenor a stopiwch y tu allan i'r Swyddfa Gofrestru yn y maes parcio. Mae'r Swyddfa Gofrestru'n wynebu'r Eglwys Gadeiriol.

Ymlaen i'r Inffyrmari >>
dychwelyd i'r mynegai
|