Yr Inffyrmari
Edrychwch yn syth ar draws y ffordd a byddwch yn gweld y Coleg Celf a Dylunio, sydd â blaen a phortico Neo-Glasurol. Yn wreiddiol, yr adeilad hwn oedd Inffyrmari'r dref. Cynhaliwyd basâr yn Wrecsam i godi arian ar gyfer inffyrmari newydd yn 1837. Codwyd swm sylweddol o £1053 ac agorwyd yr Inffyrmari flwyddyn yn ddiweddarach.
Cynhaliwyd gofal iechyd yn wahanol iawn bryd hynny. Byddai'r cyfoethogion yn rhoi arian ac amdano, byddent yn cael argymell pwy oedd i dderbyn triniaeth. Pe byddech yn rhoi gini y flwyddyn, gallasech helpu 12 o bobl, gan gynnwys un claf yn aros i mewn, cyn belled â'ch bod yn talu ffi o 10 swllt 6 cheiniog tuag at y llety (byddai raid dod â dillad gwely eich hun). Erbyn 1860, roedd yr Inffyrmari'n trin 2000 o bobl y flwyddyn. Nid oedd hyn yn rhy ddrwg bryd hynny, ond mae'n debyg mai gwaith wythnos i feddygfa fodern heddiw fyddai hyn.
Yr Inffyrmari oedd ysbyty Wrecsam hyd at 1926, wedyn daeth yn ran o Goleg Technegol Sir Ddinbych. Ers 1953, mae wedi bod yn Goleg Celf llwyddiannus iawn.

Ymlaen i Ffordd Grosvenor >>
dychwelyd i'r mynegai
|