Camfa'r Cwn
Mae Camfa'r Cwn yn llawn cymeriad, ac yn bendant mae mwy o gymeriad i'r enw Cymraeg na'r Saesneg College Street. Mae'n bur debyg bod camfa yma i gadw cwn allan o'r fynwent, yn hytrach na'u gadael i mewn. Mae'r stryd wedi gweld rhyfeddodau yn ei hamser: pregethodd y pregethwr Wesleaidd yn y dref am y tro cyntaf ym Muarth Hughes, ychydig oddi ar y stryd hon; ac am sawl blwyddyn, bu puteindy ar y stryd, ynghyd â siop wystlo a ddefnyddiwyd gan yr anghenus i'w helpu i ymestyn eu harian prin tan ddiwrnod cyflog.
Ar waelod Camfa'r Cwn, trowch i'r dde a cherdded i fyny Allt y Dref.
Allt y Dref yw canolfan ganoloesol Wrecsam. Fel llawer o drefi canoloesol eraill, adeiladwyd yr adeiladau cyntaf o amgylch ymyl y fynwent hanesyddol. Gellir gweld Wrecsam ganoloesol hyd heddiw, drwy edrych yn ofalus ar adeiladau a mynd i mewn iddynt ar y dde wrth i chi ddod i fyny'r allt, yn enwedig Rhifau 5-10 Allt y Dref.
Edrychwch am Rhif 9 Allt y Dref. Bu'n Siop Esgidiau Dodman am amser maith.

Ymlaen i Allt y Dref >>
dychwelyd i'r mynegai
|