Capel Bedyddwyr Stryt Caer
Mae Wrecsam wedi bod yn gartref i gymuned o Fedyddwyr ers 1672. Yn y blynyddoedd cynnar, bu iddynt ddioddef llawer iawn o wahaniaethu'n swyddogol gan y wlad ac yn answyddogol gan bobl leol. Byddai'r Clwb Jacobiaid Cylchol, a fyddai'n cyfarfod yng Ngwesty'r Wynnstay Arms, yn trefnu ymosodiadau yn aml i ddinistrio tai cyfarfod yr anghydffurfwyr.
O'r diwedd, cafodd y Bedyddwyr eu lle eu hunain i addoli yn 1762, pan adeiladwyd capel ar Stryt Caer. Galwyd y capel yn Hen Fan Cyfarfod, i ddathlu eu gwreiddiau addoli mewn tai preifat. Dymchwelwyd y capel yn 1875 a'i olynydd yn 1987. Erbyn hyn, maent yn addoli yn yr hen ysgoldy.
Ewch ymlaen i lawr Stryt Caer heibio tafarn y Seven Stars a Stryt y Lampint. Byddwch yn mynd i mewn i ardal blaenoriaeth i gerddwyr.
Mae llawer yn credu bod yr enw Lampint yn deillio o bwll calch a fu yn yr ardal. Hon. Ger y dafarn oedd yr hen Sinema Glyn, sy'n hawlio iddo fod y sinema cyntaf yng Ngogledd Cymru i'w adeiladu'n benodol fel sinema. Ar y dde mae Marchnad y Bobl. Dywed ambell i wag lleol rhoddwyd yr enw hwn i greu argraff ar ddirprwyaeth o ddiwydiannwyr Tsieiniaidd a oedd yn ymweld â'r ardal.
Ewch ymlaen heibio Stryt Caer gan edrych am y stryd nesaf i'r dde, sef Stryt Henblas.

Ymlaen i Farchnadoedd Wrecsam >>
dychwelyd i'r mynegai
|