Mae'r amgueddfa wedi ei lleoli yn un o adeiladau pwysicaf Wrecsam ac yn ddechreubwynt i ganfod hanes cyffrous Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae casgliadau'r amgueddfa'n adlewyrchu'r ardal a'i phobl o'r cyfnod cynhanes hyd at heddiw.
CyfarwyddiadauMae'r Amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yng Nghanol y Dref. Mae Gorsafoedd Rheilffordd Cyffredinol a Chanolog Wrecsam fwy neu lai ddeg munud i ffwrdd ar droed.
Mae'r orsaf fysiau ar Stryt y Brenin hyd yn oed yn agosach oherwydd bod adeilad yr Amgueddfa'n wynebu'r orsaf fysiau.
Gellir parcio ceir ym maes parcio aml-lawr Sant Marc ger yr Amgueddfa. Mae maes parcio talu ac arddangos yn Y Werddon, sydd y tu ôl i'r Amgueddfa ac o fewn 5 munud ar droed at fynedfa'r Amgueddfa.
Map Amgueddfa Wrecsam
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Map Amgueddfa Wrecsam - fersiwn PDF 200Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.