Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion yr Amgueddfa

 


© Amgueddfa Genedlaethol Cymru


© Bark Design a Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam


© Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Adeiladwyr y Beddrodau: Cymru 4000-3000CC

Arddangosfa Newydd i agor yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam - 22ain Medi 2008.

Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi ymuno unwaith eto i greu Adeiladwyr y Beddrodau: Cymru 4000-3000CC - arddangosfa newydd sy’n ymdrin â threftadaeth gynhanesyddol Cymru.

Ein hynafiaid o Oes y Cerrig a greodd cofadeiladau cyntaf Cymru sef cyfres o siambrau claddu anferth.  Chwe mil o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r cofadeiladau hynafol hyn yn parhau i sefyll mewn tirwedd sydd wedi newid yn sylweddol.  Ond pwy oedd y bobl a adeiladodd y siambrau mawr hyn?  Sut fywydau oedd ganddynt?  Pam wnaethant fynd i gymaint o ymdrech?  Dyma’r cwestiynau y mae’r arddangosfa’n ceisio eu hateb ac yn gofyn i chi eu hystyried.

Crëwyd Arddangosfa Adeiladwyr y Beddrodau gan Adran Archeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Arddangosfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn seiliedig ar lyfr hynod boblogaidd Dr Steve Burrow, mae’n cynnwys casgliadau sydd heb eu dangos yng ngogledd Cymru erioed o’r blaen. Mae arddangosfa Adeiladwyr y Beddrodau yn rhannu’n ddwy ran - bywyd a marwolaeth, ac mae’r ddwy ran wedi eu cysylltu gan ddeunydd clyweledol sy’n dangos yr heuldro canol haf ym Mryn Celli Ddu, siambr claddu Neolithig ar Ynys Môn.

Cewch hefyd gyfle i weld sut oedd ein hynafiaid Neolithig yn gwisgo diolch i atgynhyrchiad o wisg sy’n seiliedig ar ddyn rhew a ganfuwyd yn ne Tyrol yng ngogledd yr Eidal.

Mae’r arddangosfa’n agor ar 22ain Medi 2008 a gellir ei gweld tan  15fed Rhagfyr 2008. Mae mynediad am ddim.

Digwyddiad Arbennig

Dychweliad Adeiladwyr Y Beddrodau

Dydd Sadwrn 4ydd Hydref 2008, 11.00yb – 3.00yp yn Amgueddfa Wrecsam

Teithiwch yn ôl chwe mil o flynyddoedd. Ardystiwch sgiliau ein cyndadau. Dewch i drin y taclau y gnaethant eu defnyddio. Addas ar gyfer oedolion a phlant. AM DDIM.

Archifau Newyddion Amgueddfa

 
English
 

Cyswllt i

Amgueddfa Wrecsam
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Oriau Agor
Digwyddiadau
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint