Wyddoch chi beth yw ciblau, bydlau a dalwyr? Dewch i gael gwybod yng Nghanolfan Ymwelwyr Pyllau Plwm Y Mwynglawdd, lle cewch ddysgu mwy am fywydau'r cloddwyr a gweld lle roeddent yn gweithio yng ngweddillion y gwaith prosesu plwm o'r 19 Ganrif. Fel bonws, ar ddiwrnod clir gellir gweld golygfeydd panoramig bendigedig ar draws Dyffryn Clywedog o ben y peiriandy trawst a ailadeiladwyd!
| Canolfan Treftadaeth y Bers Y Bers, Wrecsam, LL14 4HT ffôn: 01978 318 970 ffacs: 01978 318 971 ebost: bershamheritage@wrexham.gov.uk |
• • • • • • |
Amseroedd Agor dros y Pasg 2010: Amserau agor y Gwanwyn 2010: Amseroedd agor yr Haf 2010: |
Mae'r parc gwledig sy'n amgylchynu'r safle ar agor trwy'r flwyddyn i bobl a'u cwn. Dylid gwisgo esgidiau addas oherwydd bod y safle'n anwastad. Mae Mynydd y Mwynglawdd gerllaw yn lle da i gerdded ac mae llwybr i fyny'r mynydd o'r parc gwledig. Mae 'World's End' yn lle da arall gerllaw i ymweld.
Gadewch yr A483 a chymryd yr A525 wedi'i harwyddo am Ruthun. Yng Nghoedpoeth, gyferbyn â thafarn y Five Crosses cymerwch y B5426 (Ffordd Plas y Mwynglawdd) wedi'i harwyddo Y Mwynglawdd a dilynwch y ffordd hon am ychydig dros filltir, hyd nes i chi gyrraedd mynedfa'r safle a'r maes parcio ar y dde. Edrychwch am yr arwyddion brown gyda Pyllau Plwm arnynt.
Map Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Map Pyllau Plwm y Mwynglawdd - fersiwn PDF 3.6Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.